Gofaint Arian - Canolradd / Uwch

Trosolwg o’r Cwrs

Bwriad y tri chwrs 10 wythnos hyn yw annog datblygiad technegau gofaint arian a rhoi cyfle i chi wella’r sgiliau sydd gennych eisoes.

  • Cwrs 1: Technegau gosod cerrig megis gosodiad tiwb, gosodiad cyfwyneb a gwneud cylchyn; neu, ar lefel Uwch, gemwaith gyda gosodiadau lluosog. Gellir defnyddio’r gosodiadau hyn gyda cherrig ffasedog mewn gemwaith arian.
  • Cwrs 2: Byddwch yn cynhyrchu dyluniadau gemwaith mewn ymateb i ddiwylliant Cymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o arfordir Cymru, yr iaith Gymraeg a barddoniaeth, neu gael syniadau o’r Mabinogi. Gall myfyrwyr Uwch ddewis eu thema eu hunain. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau, sy’n briodol i’ch lefel, i gynhyrchu gwaith gemwaith arian. 
  • Cwrs 3: Bydd y cwrs hwn yn astudio enamelau, technegau ffurfio, rhybedu a stampio a chodi a ffurfio Uwch. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn arbrofol a rhoi cynnig ar wahanol brosesau er mwyn ehangu eu sgiliau dylunio a gwneud, a chynhyrchu gemwaith o ddyluniadau wedi’u hysbrydoli gan eu gwaith ymchwil eu hunain.

Dull Addysgu’r Cwrs

Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond mae pob cwrs Gofaint Arian yn gallu bod yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.

Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain ac mae hyn ar gael yn www.cooksongold.com.

Bydd cost y defnyddiau’n dibynnu ar y dyluniadau unigol a’r dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.

Gwybodaeth Ychwanegol

Y ffi stiwdio yw £10

Lleoliad(au):
Llwyn y Bryn
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Thu 21 Sep 2023 | Course Code: ZD161 ELD | Cost: £220

Level Intermediate/Advanced   Thu   6.30-8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket

Start Date: Thu 11 Jan 2024 | Course Code: ZD161 ELD2 | Cost: £220

Level Intermediate/Advanced   Thu   6.30-8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket

Start Date: Thu 11 Apr 2024 | Course Code: ZD161 ELD3 | Cost: £220

Level Intermediate/Advanced   Thu   6.30-8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket