Skip to main content

Gwella Golwg gan ddefnyddio Triniaeth Microbigmentu

Rhan-amser
Lefel 4
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 wythnos (1 noson)
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Nod cymhwyster VTCT Lefel 4 yw datblygu’ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio microbigmentu, sef math o datŵio cosmetig i greu effeithiau colur a gwella nodweddion yr wyneb.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu ymgynghoriad trylwyr â’r cleient i benderfynu ar gwrs penodol o driniaeth, wedi’i deilwra i weddu i anghenion cleientiaid unigol.

  • Rheoli iechyd a diogelwch yn y salon
  • Rheoili ansawdd gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch
  • Gwella golwg gan ddefnyddio triniaeth microbigmentu

21.07.22

Gwybodaeth allweddol

Rhaid eich bod wedi cwblhau cymhwyster cysylltiedig â harddwch ar Lefel 3 cyn dilyn y cymhwyster hwn.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu am 3.5awr un noson yr wythnos dros 34 wythnos lle byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sylfaenol gysylltiedig ar gyfer y cwrs hwn. Cewch eich asesu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau ac asesiadau ymarferol.

Neu, gallech chi chwilio am waith fel:

Therapydd harddwch uwch sy’n darparu gwasanaethau microbigmentu.