Skip to main content

Gwneud Printiau

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau gwneud printiau traddodiadol a chyfoes ac mae ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyfrwng creadigol hwn.

Bydd y gweithdai yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau a byddan nhw’n eich annog i archwilio’ch syniadau eich hun i’w datblygu yn ein stiwdio gwneud printiau bwrpasol. Bydd y technegau yn cynnwys sgrin-brintio, colagraff, leino, ysgythru a monoprintio a phrintio digidol gan roi modd i chi ddatblygu gwaith yn eich arddull eich hun. Byddwch chi’n ystyried yr arwynebau y gellir printio arnyn nhw a sut mae print yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o ganlyniadau creadigol.

24/5/22

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.

Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.

Darperir deunyddiau.
Printmaking (Apr Start)
Cod y cwrs: VB1304 ELD
11/04/2024
10 weeks
Thu
5.30-8.30pm
£65
2