Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fod yn gymwys i gael cyllid trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae CDP yn rhoi modd i chi gael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyrsiau dethol, ar yr amod eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwystra. Edrychwch ar ein tudalen i weld a allwch wneud cais am CDP.
Hyfforddiant Dadansoddi Data Mawr
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn i’r rhai sydd â diddordeb mewn rheoli llawer iawn o ddata a chreu strategaethau hirdymor ar gyfer eu busnes.
Wrth i fwy a mwy o fusnesau ddibynnu ar ddata i wneud eu penderfyniadau, mae’r gallu i ddadansoddi setiau data mawr yn feirniadol yn bwysicach nag erioed. Gall Dadansoddi Data Mawr yn llwyddiannus roi cipolwg ar weithgareddau ac amlygu cyfleoedd i wella ac ehangu, yn ogystal â nodi materion a allai atal twf ac effeithio ar elw.
Mae ein cwrs hyfforddi undydd Dadansoddi Data Mawr yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i’r ddisgyblaeth hon, gan ddarparu gwybodaeth o’r Cylch Bywyd Dadansoddi Data Mawr a sut y gellir cynllunio a gweithredu dull Data Mawr.
01/02/23
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs Dadansoddi Data Mawr.
Dull Addysgu’r Cwrs
Delivery will be over one day.
Delivery is on-line, led by an instructor in a virtual classroom environment.
There is no exam attached to this course. A certificate of attendance will be awarded on completion.
Cyfleoedd Dilyniant
Addysgir y cwrs dros un diwrnod.
Addysgir y cwrs ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir.
Nid oes arholiad ar y cwrs hwn. Cewch dystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cyllid CDP ar gael i dalu cost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol
Detailed course information
Where and when can I study?
Start Date: Fri 24 Nov 2023 | Course Code: ZA1834 DLK | Cost: £0