Skip to main content

Marchnata drwy’r Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes Bach

Rhan-amser
Online
10 wythnos

Arolwg

Mae rhyngweithio â defnyddwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn strategaeth farchnata bwysig i fusnesau bach. Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch brand, cynyddu’ch cronfa cwsmeriaid, a chysylltu â’ch cwsmeriaid presennol. Dyma gwrs ymarferol lle byddwch yn creu cynnwys clyweledol ar gyfer eich ymgyrch farchnata ddigidol. Byddwch yn creu gwefan a dal / golygu cynnwys fideo.

Bwriedir y cwrs hwn i weithredwyr busnesau bach neu unigolion sydd am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chwsmeriaid, cynyddu ymwybyddiaeth o’u brand, a rhoi hwb i gysylltiadau a gwerthiannau. Mae hwn yn gwrs ymarferol a damcaniaethol a fydd yn rhoi’r gallu i chi greu cynnwys o safon uchel a datblygu strategaeth farchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol.   

Mae cynnwys da, p’un a ydyw ar ffurf blog neu ddiweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn annog defnyddwyr i ymgysylltu â’r brand. Nid yw marchnata cynnwys yn gysyniad newydd ym myd marchnata digidol, ond ar hyn o bryd, mae’n bwysicach nag erioed. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar greu cynnwys unigryw, dilys, o safon uchel sydd yn ddifyr, yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i ddefnyddwyr. 

Byddwch yn: 

  • Deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu cyd-fynd ag amcanion marchnata’ch busnes 
  • Archwilio potensial Systemau Rheoli Cynnwys a dysgu sut i greu gwefan gan ddefnyddio WordPress. 
  • Ysgrifennu cynnwys a dal delweddau a fideo, a pharatoi’r rhain ar gyfer rhannu 
  • Deall egwyddorion dylunio sylfaenol ffotograffiaeth, fideo a dylunio graffig 
  • Mesur a gwella perfformiad 

Ychwanegwyd  Chwefror 2021

Gwybodaeth allweddol

Pan fo’n bosibl, caiff prosiectau posibl eu mapio i anghenion unigol ond dylai ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura a bod yn barod i astudio’n annibynnol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae mynediad i liniadur a ffôn clyfar yn ddymunol. Disgwylir i ddysgwyr brynu cardiau cof addas ar gyfer storio a throsglwyddo cyfryngau.

Bydd y cwrs yn seiliedig ar brosiectau a’i gefnogi gan ddefnyddio Microsoft Teams. Pan fo’n briodol, bydd y cymwysiadau a ddefnyddir yn ffynhonnell agored neu am ddim. Bydd dysgwyr yn cael mynediad i’n stiwdios y cyfryngau at ddibenion recordio a golygu (os bydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu). Addysgir y cwrs hwn o bell, un sesiwn yr wythnos dros 10 wythnos. Er bydd yr amserlen hon yn rhoi modd i ddysgwyr gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn treulio amser ychwanegol bob wythnos yn datblygu cynnwys, i sicrhau lefelau uchel o lwyddiant. Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster anachrededig a fydd yn rhoi portffolio cryf o waith y cyfryngau cymdeithasol i ddysgwyr, a gwybodaeth uwch o gymhwyso’r cyfryngau cymdeithasol yn y farchnad gystadleuol sydd ohoni.

"Ar y cwrs Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnesau Bach, fe wnaethon ni astudio amrywiaeth o bynciau fel datblygu gwefan, creu/golygu fideos, a chreu/golygu sain. Yn ychwanegol at hynny, gofynnwyd i ni yn aml beth arall roedden ni am ei ddysgu ac yna fe wnaethon ni ddysgu mwy amdano neu cawson ni ein rhoi yn y cyfeiriad cywir i sicrhau ein bod ni’n cael y gorau ohono ar gyfer ein busnesau.

Yn ein cwmni plymwaith, roedden ni wedi meddwl am greu fideos gydag awgrymiadau a chanllawiau hawdd ar gyfer datrys problemau plymwaith. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau.

O fewn cyfnod bach o amser ac yn ddigidol trwy Microsoft Teams, cefais fy nysgu sut i greu fideo a’i golygu gan ddefnyddio DaVinci Resolve. Aethon ni i mewn i’r Ystafell Werdd yn y Coleg a recordio clip sain am ein busnes gan ddefnyddio nifer o feicroffonau gwahanol. Yna aethon ni ymlaen i ddysgu sut i olygu yn Audacity i gyflawni darn perffaith o sain sy’n ymwneud yn benodol â’n busnes ni ein hunain.

Bydda i’n cymhwyso’r wybodaeth hon i’m busnes yn y dyfodol, gan ddefnyddio sain a fideo a grëwyd ac a olygwyd gennym ni! Dwi’n gobeithio defnyddio hwn ar bob platfform y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan hefyd.

Roedd y tiwtor Chris yn gefnogol iawn ac yn barod i ateb unrhyw gwestiynau ar unrhyw adeg ac felly cawson ni i gyd gyfle i symud ymlaen cymaint ag yr oedden ni eisiau. Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i bobl sydd am ddefnyddio lluniau fideo o fewn eu cwmni."