Mecaneg Cynnal a Chadw Beiciau Gartref
Arolwg
Bwriedir y cwrs hwn i selogion beicio a’i nod yw rhoi lefel dda o allu mecanyddol er mwyn cynnal a chadw beic.
Bydd yn rhoi hyder i chi wneud gwaith atgyweirio a gwasanaethu a bydd yn eich addysgu sut i wybod pryd bydd angen i chi weld technegydd hyfforddedig mwy profiadol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
- Pensetiau
- Braced gwaelod
- Trên gyriant
- Gosod gerau
- Breciau
- Bothau
- Teiars a thiwbiau
Gwybodaeth allweddol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad.
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael cyllid CDP. Mae ffi £200 yn daladwy.
Rydyn ni’n rhedeg cyrsiau tebyg trwy gyllid CDP, gweler y wefan i gael y meini prawf cymhwystra: https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol.
Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd gyda’r dros dau diwrnod.
Os hoffech chi gael cymhwyster ffurfiol, gallwch chi symud ymlaen i gwrs Cytech Technegol lefel un.
Darperir beiciau ac offer yn ystod y cwrs.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..