Mylash Lift

Rhan-amser
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
1 Day
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Bwriad Mylash Lift yw creu’r rhith o gael blew amrant hwy a mwy trwchus heb angen cael estyniadau. Mae’r blew amrant yn cael eu sythu yn hytrach na’u cyrlio ac mae hyn yn codi’r blew amrant naturiol. Trwy ddefnyddio arlliw bydd y blew amrant yn edrych yn fwy tywyll gan greu diffiniad cyffredinol i’r llygad. Mae’r cwrs yn ceisio sicrhau eich bod yn cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth wella edrychiad y blew amrant.

Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys:

• Iechyd, diogelwch a hylendid
• Paratoi man cleientiaid a man gwaith
• Ymgynghori â chleientiaid a rhoi profion clytiau iddynt
• Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
• Nodi’r tariannau silicon maint cywir
• Triniaeth codi blew amrant
• Ffurfiant y gwallt
• Cyngor ôl-ofal

Diweddarwyd Tachwedd 2018

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Rhaid i fyfyrwyr fod â chymhwyster arlliwio blew amrant, a bydd gofyn iddynt weithio ar ei gilydd. Ni ddylent ddod yn gwisgo llawer iawn o golur.

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd y tiwtor yn arddangos y driniaeth, a bydd dysgwyr wedyn yn ymarfer y driniaeth a arddangoswyd ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiad ysgrifenedig.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd myfyrwyr yn gallu cynnig triniaeth Mylash Lift i’w cleientiaid. Efallai y bydd myfyrwyr am wneud cais i astudio cwrs harddwch rhan-amser neu amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau.  Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau du caeedig gwastad a thop/tiwnig du plaen.

Rhaid prynu cit er mwyn astudio ar y cwrs hwn – cost y cit yw tua £90 (seiliedig ar bris 2018).

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.