Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn cael ei arwain yn bennaf gan fyfyrwyr, ond mae yna gynllunydd cwrs a fydd yn cynnwys amrywiaeth o seigiau traddodiadol a chyfoes.
Bob wythnos bydd myfyrwyr yn gwylio arddangosiad a byddan nhw’n paratoi, coginio a chyflwyno eu seigiau. Rhoddir arweiniad parhaus trwy gydol y sesiwn.
Bydd myfyrwyr yn cael y cynllunydd cwrs ymlaen llaw yn ogystal â thaflenni ryseitiau. Bydd myfyrwyr yn prynu’r cynhwysion ac yn dod â nhw i’r Coleg. Rhaid gwisgo esgidiau pwrpasol – di-lithr a bysedd traed caeedig - a dewch â ffedog, pen a phapur.
24/6/22
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth o goginio. Cwrs heb ei achredu.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs yn y dosbarth yn bennaf, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni fydd unrhyw asesiadau ffurfiol.
- • Wythnos 1 - Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan y tiwtor
• Wythnosau 2-4 - Sesiwn ymarferol
• Wythnos 5 - Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs
Cyfleoedd Dilyniant
Cofrestru ar gwrs coginio arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cynhwysion ar gyfer pob saig.