Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn i olygu delweddau digidol yn eich annog i archwilio meddalwedd i olygu a thrin delweddau i’w defnyddio fel ffotograffiaeth a/neu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. P’un ai ar gyfer busnes ar-lein, eich platfform cyfryngau cymdeithasol eich hun neu er pleser yn unig byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr i gefnogi’ch anghenion.
Ychwanegwyd Mehefin 2020
Gofynion Mynediad
Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad blaenorol gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch yn astudio’r cwrs hwn yn y gweithdy/stiwdio. Addysgir y cwrs drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, 3 awr yr wythnos dros 10 wythnos ac mae’n cynnwys asesiadau parhaus.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, neu’r cwrs Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.