Sgiliau Gwnïo
Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn:
01792 284021 (Llwyn y Bryn)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Arolwg
Bydd y cwrs hwn yn datblygu’ch sgiliau gwnïo a’ch annog i arbrofi ag amrywiaeth o brosesau a deunyddiau gwnïo.
Byddwch chi’n datblygu amrywiaeth o samplau gwnïo i ategu prosiectau yn y dyfodol. Byddwch chi’n creu cynnyrch gorffenedig sy’n adlewyrchu’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu ar y cwrs. Cewch fynediad i’n stiwdios ac offer ffasiwn a thecstilau diweddaraf sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol a meddalwedd dylunio tecstilau.
Bydd Tymor 1 yn canolbwyntio ar adeiladu eich sgiliau gwnïo
Bydd Tymor 2 yn ehangu eich gwybodaeth o batrymau gwnïo a gwniadwaith
Bydd Tymor 3 yn eich cyflwyno i dorri patrymau
24/5/22
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael eich tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.
Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.
Darperir deunyddiau.
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..