Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau gwnïo? Os felly, bydd y cwrs hwn yn addas i chi. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio’r cyfleusterau diweddaraf yn stiwdios ffasiwn Campws Llwyn y Bryn. Gan ddefnyddio peiriannau gwnïo diwydiannol, bydd dysgwyr yn archwilio technegau proffesiynol ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion ffasiwn a thecstilau.
Ychwanegwyd Chwefror 2021
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs mewn gweithdy/stiwdio trwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, tair awr yr wythnos dros 10 wythnos yn amodol ar asesiadau parhaus.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2 neu 3, Y Cyfryngau Creadigol Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio.