Trosolwg o’r Cwrs
Mae angen y sgiliau cywir ar bawb sy’n gweithio neu’n ystyried gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae llythrennedd yn sgil hanfodol i’r holl weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cyflawni rolau ar unrhyw lefel.
Mae sgiliau llythrennedd yn cynnwys: gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu.
Mae pob rôl Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys cyfathrebu’n effeithiol. Gall hyn gynnwys gwrando ar gleientiaid a’u teuluoedd a chydweithwyr eraill a siarad â nhw, a chyfathrebu ar lafar â gweithwyr proffesiynol eraill o’r sefydliad ac asiantaethau allanol.
Mae sgiliau darllen da yn hanfodol ar gyfer deall cynlluniau gofal, gan ddilyn cyfarwyddiadau a negeseuon ysgrifenedig. Mae sgiliau ysgrifenedig hefyd yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau cofnodion cleientiaid, cymryd nodiadau ac ysgrifennu cyfarwyddiadau.
Gall tystiolaeth o sgiliau llythrennedd da fod o fudd i’r rhai sy’n ceisio cyflogaeth a gall helpu i osgoi diweithdra yn y dyfodol.
Diweddarwyd Rhagfyr 2018
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd dysgwyr yn cwblhau offeryn asesu ar-lein. Bydd hwn yn rhoi amlinelliad eang o sgiliau cyfredol y dysgwr ac yn helpu i nodi anghenion datblygu. Bydd y cwrs yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn trwy addysgu strwythuredig ac asesu ar-lein.
Bydd dysgwyr yn dod i’r Coleg am 15 wythnos, ac am ddwy awr yr wythnos.