Skip to main content

TGAU Mathemateg

Rhan-amser
Lefel 2
GCSE
Tycoch, Online
30 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg (Rhifedd)

Mae’r cymwysterau hyn yn ddefnyddiol iawn mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan ddatblygu sgiliau sy’n cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi’n fawr yn y gweithle. Maen nhw’n ddau gymhwyster annibynnol ar wahân, er bod rhai elfennau cyffredin i ddeunyddiau’r cwrs. Mae’n bosibl sefyll y ddau arholiad, ond fe’ch cynghorir yn gryf i ymchwilio i ba linyn sy’n gweddu orau i’ch anghenion unigol chi.

  • Mae’r ddau gymhwyster yn gwrs blwyddyn i’w arholi yn yr haf.
  • Pwysiad cyfartal o gwestiynau cyfrifiannell a chwestiynau nad ydynt yn ymwneud â chyfrifiannell.
  • Dewis o Lefel Ganolradd (Graddau B-E) neu Lefel Uwch (Graddau A*-C).

Oherwydd Covid-19 rydym yn gallu cynnig dysgu ar-lein trwy blatfform Microsoft Teams a rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb cyfyngedig os oes angen. Bydd cymorth bob amser ar gael i sicrhau y gallwch aros yn gysylltiedig, gan ddefnyddio’r adnodd digidol anhygoel hwn. Mae’r rhai ohonom sydd wedi bod yn ei ddefnyddio ers tro bellach yn gallu gweld ei fuddion, yn ein maes pwnc.

Bydd cynnydd yn cael ei wirio’n rheolaidd trwy amrywiaeth o blatfformau, gan gynnwys ein safle Moodle y Coleg a MathsWatch – sef meddalwedd dysgu rhyngweithiol sy’n rhoi enghreifftiau o waith i chi a’r cyfle i roi cynnig ar gwestiynau eich hun.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau gwaith cartref a gweithio’n galed i gyflawni eu nod. Rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i fynychu pob dosbarth. Gall myfyriwr gofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn.

30 wythnos - 2.5 awr yr wythnos

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg (Rhifedd)?

Mae’n bwysig gwybod hyn ar ddechrau’ch cwrs, ond os penderfynwch newid llinyn ar ôl ychydig mae hynny’n iawn.

  • Mae TGAU Mathemateg yn gyffredinol yn cynnwys cwestiynau strwythuredig byr. Mae iddo fwy o’r elfennau traddodiadol fel algebra a geometreg bellach ac mae angen gwybodaeth eang o eirfa mathemateg. Mae cwestiynau fel arfer yn werth nifer gymharol fach o farciau.
     
  • Mae TGAU Mathemateg (Rhifedd) yn canolbwyntio mwy ar ddatrys problemau. Yn gyffredinol, mae cwestiynau’n fwy manwl ac yn gofyn am lefel dda o ddealltwriaeth. Mae’n tueddu i gyflwyno mwy o senarios bywyd go iawn a gall cwestiynau fod yn werth cryn dipyn o farciau.

Awgrymiadau gweithio gartref
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfeisiau wedi’u gwefru a bod eich signal Wi-Fi yn dda. Byddai lle i eistedd lle gallwch ganolbwyntio hefyd yn fuddiol i’ch dysgu.

I gyrchu dysgu ar-lein, bydd angen i chi glicio yma – mae hyn yn mynd â chi drwodd i’r Porth Staff / Myfyrwyr

Yn ogystal bydd angen arnoch eich:
Enw Defnyddiwr h.y.: ABC12345789@stu.coleggwyrabertawe.ac.uk
Cyfrinair (sydd wedi cael ai anfon at ddysgwyr trwy neges destun)

Os ydych chi’n newydd i’r Coleg, byddwch yn derbyn neges destun gyda’ch enw defnyddiwr newydd a’ch cyfrinair i gyrchu eich cwrs TGAU ar-lein. Os gwnaethoch chi gwrs gyda ni yn 2019-20, defnyddiwch eich manylion mewngofnodi o’r llynedd. Os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, e-bostiwch library@gcs.ac.uk 

Ar ôl i chi gofrestru bydd rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau i ymuno â’r dosbarthiadau trwy Teams sydd i’w gweld yma:

TGAU Mathemateg/Rhifedd:
https://moodle.gowercollegeswansea.ac.uk/course/view.php?id=1731  

Sylw i Fathemateg:
https://moodle.gowercollegeswansea.ac.uk/course/view.php?id=2209

Bydd angen cyfrifiannell wyddonol, pren mesur, onglydd a phâr o gwmpawdau ar fyfyrwyr. Mae llyfr testun cwrs ar gael hefyd. Anogir yn gryf y dylid defnyddio safle Moodle y Coleg a MathsWatch. Bydd eich darlithydd yn darparu cyfrineiriau.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch jonathan.oakes@gcs.ac.uk