Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymwysterau hyn yn ddefnyddiol iawn mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan ddatblygu sgiliau sy’n cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi’n fawr yn y gweithle. Maen nhw’n ddau gymhwyster annibynnol ar wahân, er bod rhai elfennau cyffredin i ddeunyddiau’r cwrs. Mae’n bosibl sefyll y ddau arholiad, ond fe’ch cynghorir yn gryf i ymchwilio i ba linyn sy’n gweddu orau i’ch anghenion unigol chi.
- Mae’r ddau gymhwyster yn gwrs naw mis i’w arholi yn yr haf.
- Mae pwysiad cyfartal o gwestiynau cyfrifiannell a chwestiynau nad ydynt yn ymwneud â chyfrifiannell.
- Dewis o Lefel Ganolradd (Graddau B-E) neu Lefel Uwch (Graddau A*-C)
- Gwiriadau cynnydd rheolaidd
- Bydd gennych fynediad i safle Microsoft Office 365 Teams y Coleg a MathsWatch
Diweddarwyd Mai 2021
Gofynion Mynediad
Yn achos dysgwyr y mae’r Saesneg yn ail iaith iddynt, bydd rhaid i chi fod wedi ennill Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Bywyd ESOL neu’r cyfwerth. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol eraill, ond disgwylir i fyfyrwyr gwblhau gwaith cartref a gweithio’n galed i gyrraedd eu nod. Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr ymrwymo i fynychu pob dosbarth.
Dull Addysgu’r Cwrs
Beth yw’r gwahaniaethau rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg (Rhifedd)?
Mae TGAU Mathemateg yn gyffredinol yn cynnwys cwestiynau strwythuredig byr. Mae iddo fwy o’r elfennau traddodiadol fel algebra a geometreg bellach ac mae angen gwybodaeth eang o eirfa mathemateg.
Mae TGAU Mathemateg (Rhifedd) yn canolbwyntio mwy ar ddatrys problemau. Yn gyffredinol, mae cwestiynau’n fwy manwl ac yn gofyn am lefel dda o ddealltwriaeth. Mae’n tueddu i gyflwyno mwy o senarios bywyd go iawn.
Mae addysgu ar-lein ar gael ar gyfer dechrau ym mis Tachwedd yn unig. Os hoffech astudio ar y campws, dewiswch y cwrs sy'n dechrau ym mis Medi (bob nos Fawrth).
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen arnoch fynediad i gyfrifiadur, gliniadur, iPad neu unrhyw ddyfais glyfar gyda chysylltiad rhyngrwyd. Dylai’ch dyfais ganiatáu i chi ddefnyddio Word, Excel a PowerPoint. Gwnewch yn siŵr bod eich dyfeisiau wedi’u gwefru a bod eich signal Wi-Fi yn dda. Byddai’n fuddiol i’ch dysgu pe gallech eistedd mewn lle tawel hefyd.
Os yw’n well gennych astudio ar-lein bydd angen i chi glicio yma – bydd hyn yn mynd â chi i’r Porth Staff / Myfyrwyr. Bydd angen arnoch hefyd eich:
Enw Defnyddiwr e.e.: ABC12345789@stu.gowercollegeswansea.ac.uk
Cyfrinair (a anfonwyd at ddysgwyr drwy neges destun)
Os ydych yn newydd i’r Coleg, byddwch yn derbyn neges destun gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair newydd i gyrchu’ch cwrs TGAU ar-lein pan fyddwch yn cofrestru. Os cewch broblem wrth fewngofnodi, cysylltwch â CSHelpdesk@gowercollegeswansea.ac.uk
I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, cysylltwch â talal.murad@gcs.ac.uk