Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y cwrs yw gwella neu hogi sgiliau sylfaenol torri gwallt dynion:
- Cyflwyniad a gwybodaeth am wahanol doriadau clasurol i ddynion
- Technegau torri ar gyfer gwahanol fathau o doriadau clasurol i ddynion
- Torri gwallt canolig dynion gan ddefnyddio siswrn, clipwyr a graddau
Cewch Dystysgrif Coleg Gŵyr Abertawe ar ôl cwblhau’r cwrs.
Ychwanegwyd Mehefin 2020
Gofynion Mynediad
Mae profiad blaenorol neu’r cymhwyster Lefel 2 mewn trin gwallt/barbro yn ofynnol.
Bydd gofyn i chi ddod â’ch offer a’ch cyfarpar sylfaenol eich hun e.e. offer torri, clipwyr a graddau.
Yn y prynhawn, bydd angen model addas ar gyfer eich toriad gwallt neu bydd rhaid i chi ddarparu’ch pen ymarfer eich hun.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys arddangosiadau a’r cyfle i chi gwblhau toriadau.
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No