Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau i ddeall strwythur ffabrig, torri darnau dilledyn allan, yr ystyr a sut i drosglwyddo symbolau patrwm i ffabrig. Byddwch yn datblygu gwybodaeth o dorri patrymau i ddatblygu eich patrwm eich hun cyn gwneud dilledyn gorffenedig.
Bydd gennych fynediad i’n stiwdios a’n hoffer ffasiwn a thecstilau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol a meddalwedd dylunio tecstilau.
Ychwanegwyd Mehefin 2019
Gofynion Mynediad
Does dim angen profiad blaenorol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth am dair awr yr wythnos a bydd asesiadau parhaus.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae sawl cyfle gan gynnwys cyrsiau rhan-amser eraill neu opsiynau amser llawn fel Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.