This course is available in Welsh

Dyfarniad Lefel 2 mewn Tylino a Gofal Croen Wyneb

Rhan-amser
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
17 wythnos
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Tylino a Gofal Croen Wyneb yn gymhwyster sydd wedi cael ei gynllunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol o ran sut i ddarparu gofal croen wyneb. 

Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o arferion iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon a sut i hyrwyddo gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch. Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd drwy gydol y cymhwyster hwn. 

Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau therapi harddwch i lefel uchel o allu galwedigaethol er mwyn i chi berfformio’ch gwasanaethau salon eich hun. 

  • Darparu gofal croen wyneb     
  • Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch 
  • Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddilyn y cymhwyster hwn  
  • Byddwch yn dod i gyfweliad i sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol er mwyn cofrestru a chyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Cyfleoedd Dilyniant

Triniaethau Therapi Harddwch (Diploma Lefel 2/Lefel 3) neu Drin Gwallt (Diploma Lefel 2).

Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.  
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.