Trosolwg o’r Cwrs
Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol arbenigol i ddarparu colur ar gyfer amryw o achlysuron gan gynnwys achlysuron yn ystod y dydd, gyda'r nos ac achlysuron arbennig. Byddwch yn gallu gweithio gydag amrywiaeth o fathau o groen a rhoi ymlaen ystod eang o gynhyrchion colur i wahanol arlliwiau croen a grwpiau oedran. Byddwch hefyd yn darparu cyfarwyddyd colur ac yn rhoi cyngor i gleientiaid.
Byddwch yn gallu darparu triniaethau siapio aeliau a lliwio aeliau a blew amrant ar gyfer cleientiaid sydd â nodweddion lliwio gwahanol.
Trwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol ac yn gweithio mewn amgylchedd salon masnachol. O fewn y cymhwyster byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu â nhw a gwybodaeth gysylltiedig o driniaethau ewinedd. Yn ogystal, byddwch yn astudio:
- Iechyd, diogelwch a hylendid
- Paratoi’r man gwaith a’r man cleientiaid
- Ymgynghori â chleientiaid
- Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
- Rhoi colur ymlaen a dangos sut i wneud hyn
- Triniaethau’r aeliau a blew amrant
- Esgyrn a chyhyrau’r greuan
- Adeiledd y gwallt a’r croen
- Clefydau ac anhwylderau’r croen
- Cyngor ôl-ofal
Diweddarwyd Tachwedd 2018
Gofynion Mynediad
Addas i fyfyrwyr sydd ag addysg gyffredinol dda e.e. cymhwyster Lefel 1 neu gymhwyster TGAU cyfwerth neu gymhwyster ESOL Lefel 1.
Mae agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu da a’ch bod wedi’ch cyflwyno’n dda.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs un noson yr wythnos (6-9pm) dros 34 wythnos.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol, ac felly mae’n llwybr delfrydol i’r rhai sydd am astudio’n hyblyg o gwmpas ymrwymiadau eraill.
Bydd y tiwtor yn arddangos y triniaethau a’r technegau a bydd dysgwyr wedyn yn perfformio’r driniaeth ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiadau ysgrifenedig.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’n bosibl symud ymlaen yn y maes medrus hwn i uwch dechnegau colur gan gynnwys llunberffeithio. Mae cyrsiau dilynol yn cynnwys Tystysgrif Lefel 3 mewn Colur Ffasiwn a Ffotograffig neu’r Diploma Lefel 3 mewn Astudiaethau Gwallt, y Cyfryngau, Theatr a Ffasiwn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau caeedig du gwastad, top du plaen a ffedog.
Mae prynu cit yn hanfodol er mwyn astudio ar y cwrs hwn – mae’r cit yn costio tua £227 (seiliedig ar bris 2018).