Skip to main content

Colur Ffasiwn a Ffotograffig - Tystysgrif

Rhan-amser
Lefel 3
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
30 wythnos
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae’r cymhwyster galwedigaethol arbenigol hwn yn seiliedig ar ddylunio a defnyddio colur ffasiwn a ffotograffig sy’n cynnwys gogwyddau ffasiwn uchel,  ffasiwn cyfnod, brigdrawst, ffantasi, priodas ac edrychiadau masnachol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu’r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer ffotograffiaeth liw a du a gwyn. 

Mae unedau’r cwrs yn cynnwys:

  • Iechyd, diogelwch a hylendid
  • Paratoi’r man gwaith a’r man cleientiaid
  • Ymgynghori â chleientiaid
  • Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
  • Swyddogaeth y croen
  • Clefydau ac anhwylderau’r croen
  • Uwch dechnegau colur
  • Colur ffasiwn a ffotograffig
  • Hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau

Diweddarwyd Tachwedd 2018

Gwybodaeth allweddol

Yn addas i’r myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio Tystysgrif Lefel 2 mewn Colur Cosmetig ac Ymgynghori ynghylch Harddwch neu sydd ag addysg gyffredinol dda.

Mae agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu da a’ch bod wedi’ch cyflwyno’n dda.

Addysgir un noson yr wythnos (6-9pm) dros 34 wythnos.  

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymweld â lleoliadau amrywiol ac astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol, ac felly mae’n llwybr delfrydol i’r rhai sydd am astudio’n hyblyg o gwmpas ymrwymiadau eraill.

Bydd y tiwtor yn arddangos y triniaethau a’r technegau a bydd dysgwyr wedyn yn perfformio’r driniaeth ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiadau ysgrifenedig.

Mae’n bosibl symud ymlaen yn y maes medrus hwn i golur cuddliwio, uwch dechnegau colur gan gynnwys llunberffeithio neu’r Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Gwallt, y Cyfryngau, Theatr a Ffasiwn.

Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau caeedig du gwastad, top du plaen a ffedog.

Rhaid prynu cit i astudio ar y cwrs hwn – mae’n costio tua £160 (seiliedig ar bris 2018).