Trosolwg o’r Cwrs
Nod y cwrs yw cyflwyno sgiliau cwnsela. Dylai dysgwyr sy’n bwriadu dod yn gwnselwyr gweithredol symud ymlaen i gymwysterau BTEC eraill. Ni fydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth fel cwnselydd ar ôl cwblhau’r dystysgrif hon.
Mae’r cwrs yn darparu’r canlynol:
- Addysg a hyfforddiant i’r rhai a all ddefnyddio sgiliau cwnsela wrth weithio gydag eraill
- Cyfleoedd i’r rheini a all ddefnyddio sgiliau cwnsela wrth weithio gydag eraill i ennill cymhwyster Lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n benodol i alwedigaeth
- Cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymhwyster sy'n benodol i alwedigaeth a gydnabyddir yn genedlaethol i’w helpu i gael gwaith mewn meysydd sy’n gweithio gyda phobl neu i symud ymlaen i gymwysterau galwedigaethol pellach fel Edexcel BTEC Tystysgrif Lefel 3 neu Ddiploma mewn Sgiliau Cwnsela
- Yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr fel cyflwyniad i sgiliau cwnsela
- Cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau, rhinweddau personol a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Diweddarwyd Tachwedd 2018
Dull Addysgu’r Cwrs
Gwerth credyd y cymhwyster: 16 credyd.
Lleiafswm y credydau i’w gyflawni ar lefel y cymhwyster: 16 credyd.
Rhaid cyflawni’r holl gredydau o’r unedau a restrir yn y fanyleb hon.
Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No