Tystysgrif mewn Technoleg Ewinedd

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych yn ystyried dechrau gyrfa fel technegydd ewinedd, yn gweithio mewn salon neu far ewinedd, bydd y cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Ei nod yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau ymarferol a’r cymhwyster sydd ei angen ar gyfer y diwydiant er mwyn i chi wneud hynny yn hyderus.

Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys:

  • Iechyd, diogelwch a hylendid
  • Paratoi’r man gwaith a’r man cleientiaid
  • Ymgynghori â chleientiaid 
  • Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
  • Triniaethau dwylo a moeth
  • Triniaethau traed a moeth
  • Estyniadau ewinedd gel uwchfioled
  • Adeiledd y croen a’r ewinedd
  • Clefydau ac anhwylderau’r croen a’r ewinedd
  • Cyngor ôl-ofal
  • Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon
  • Darparu a chynnal gwelliannau i’r ewinedd
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu â nhw mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch
  • Darparu triniaethau dwylo
  • Darparu triniaethau traed

Diweddarwyd Tachwedd 2018

Gofynion Mynediad

Addas i fyfyrwyr sydd ag addysg gyffredinol dda e.e. cymhwyster Lefel 1 neu gymhwyster TGAU cyfwerth neu gymhwyster ESOL Lefel 1.

Mae agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd yn hanfodol.  Rhaid i chi fod â sgiliau cyfathrebu da a’ch bod wedi’ch cyflwyno’n dda.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs un noson yr wythnos (6-9pm) dros 34 wythnos.  

Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol, ac felly mae’n llwybr delfrydol i’r rhai sydd am astudio’n hyblyg o gwmpas ymrwymiadau eraill.

Bydd y tiwtor yn arddangos y triniaethau a’r technegau a bydd dysgwyr wedyn yn perfformio’r driniaeth ar eu model. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiadau ysgrifenedig.

Cyfleoedd Dilyniant

Mae’n bosibl symud ymlaen yn y maes medrus hwn i welliannau ewinedd acrylig neu unrhyw hyfforddiant galwedigaethol arall. Efallai y bydd myfyrwyr am wneud cais am unrhyw gwrs harddwch amser llawn neu ran-amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau caeedig du gwastad a thop du plaen neu diwnig.

Mae prynu cit yn hanfodol er mwyn astudio ar y cwrs hwn. Mae’r cit yn costio (seiliedig ar bris 2018) tua naill ai £387.45 gan gynnwys lamp LED neu £252.30 ac eithrio’r lamp LED.

Lleoliad(au):
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Mon 18 Sep 2023 | Course Code: K2C1128 ETA | Cost: £320

Level 2   Mon   6-9pm   34 weeks   Tycoch