Cyfrifeg ACCA ATX – Treth Uwch

Rhan-amser, HE
Lefel 6
ACCA
Plas Sgeti
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

04/07/23

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Dull Addysgu’r Cwrs

Treth Uwch (ATX)

Byddwch yn gallu:

  • Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth bellach o system dreth y DU trwy astudio pynciau uwch o fewn y trethi a astudiwyd yn flaenorol ac astudio trethi stamp
  • Nodi a gwerthuso effaith trethi perthnasol ar amrywiol sefyllfaoedd a chamau gweithredu, gan gynnwys rhyngweithio trethi
  • Rhoi cyngor ar leihau a/neu ohirio rhwymedigaethau treth trwy ddefnyddio mesurau cynllunio treth safonol
  • Cyfathrebu â chleientiaid, Cyllid a Thollau EM a gweithwyr proffesiynol eraill mewn modd priodol.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen i gyrsiau ACCA SBL ac SBR eraill ac unedau pwnc dewisol eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnwch am unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.