Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU. Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn bwysicach.
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
MA – Cyfrifeg Rheolaeth. Byddwch yn datblygu technegau cyfrifeg rheolaeth i’ch helpu i gefnogi busnesau i gynllunio, rheoli a monitro perfformiad. Byddwch yn dysgu gwahanol ffyrdd o reoli cyllid o fewn sefydliad gyda’r nod o wella perfformiad busnes.
Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol yn ôl y gofyn.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill AB, FA, LW, PM, FR, TX, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol.
Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae'r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. Cysylltwch ag Emma.Thomas@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi cwrs a deunyddiau astudio £475 fesul uned
Ffi gofrestru ACCA tua £95
Ffi aelodaeth ACCA tua £121
Ffi arholiad tua £100
Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Prentisiaeth neu ein Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion.
Dyddiad dechrau: 10 Ionawr 2023
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk