Prentisiaethau

Mae Rhaglenni Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn cael eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae'r prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Pa raglenni sydd ar gael?

  • Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Prentisiaethau Uwch (Lefel 4)

Pa lwybrau gyrfa sydd ar gael?

  • Adwerthu
  • Cefnogi dysgu ac addysgu
  • Cerbydau modur
  • Cyngor a chyfarwyddyd
  • Cymorth dysgu
  • Cynhyrchion electronig defnyddwyr
  • Gofal plant
  • Gwaith brics
  • Gwaith coed
  • Gwasanaeth cwsmeriaid
  • Gweinyddu busnes
  • Gweithrediadau canolfan gyswllt
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Peintio ac addurno
  • Peirianneg
  • Perfformiad gweithredol
  • Plymwaith
  • Rheolaeth
  • Rheoli cyfleusterau
  • Systemau larymau diogelwch
  • Tai
  • Technegau gwella busnes
  • TG, meddalwedd a thelegyfathrebu
  • Trin gwallt
  • Trydanol
  • Warysau a storio

Sylwch, ceir meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cwrs y mae'n rhaid i'r myfyriwr eu bodloni, a chaiff hyn ei drafod yn ystod y cyfweliad.  Rhaid i unigolion a hoffai ddilyn prentisiaeth fod wedi'u cyflogi neu ar fin gael eu cyflogi.

Pwy all wneud cais? Unrhyw un sy’n...

  • 16+ oed ac yn gobeithio ennill cymwysterau a chael profiad gwaith
  • gadael yr ysgol a chwilio am hyfforddiant y tu allan i’r ystafell ddosbarth
  • dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra
  • ystyried newid gyrfa
  • wynebu colli swydd
  • awyddus i ddatblygu ei fusnes ei hun
  • am ennill cymwysterau yn ei swydd bresennol

Beth yw’r manteision?

  • ennill cyflog
  • cael profiad yn y sector rydych am weithio ynddo
  • ennill cymwysterau (e.e. FfCCh, NVQ, BTEC a City & Guilds) i ddatblygu’ch gyrfa
  • datblygu eich sgiliau hanfodol (TGCh, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, gwella dysgu, datrys problemau a chyfathrebu) ar gyfer y byd go iawn
  • gwella’ch cyfle o gael swydd

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch gampws Tycoch (01792 284000) neu gampws Gorseinon (01792 890700).
E-bost: apprenticeships@coleggwyrabertawe.ac.uk

Diweddarwyd Chwefror 2018