Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Cynigir ein cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn amser llawn ar Lefelau 2 a 3 ac maen nhw ar gyfer y rhai sy’n ystyried gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus e.e. yr heddlu, y gwasanaeth tân, y lluoedd arfog neu’r gwasanaeth carchardai.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wybod rhagor am y gwahanol wasanaethau ac i asesu’r lefel o ffitrwydd sydd ei hangen. Mae gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau antur yn rhan bwysig o’r cwrs hwn. 

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gwrs addysg uwch neu wneud cais uniongyrchol i ymuno â gwasanaeth cyhoeddus.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth