Croeso

Croeso i Goleg Gŵyr Abertawe. Gobeithio y byddwch chi'n penderfynu ymuno â ni ym mis Medi! Er ei bod yn gyffrous, mae gadael yr ysgol a dechrau coleg yn gallu bod ychydig yn frawychus. Ar y dudalen hon, rydyn ni wedi rhoi gwybodaeth at ei gilydd i’ch helpu i gael rhyw syniad o naws y Coleg fel y byddwch chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn barod amdani!

Neidio i'r cyrsiau
Ymgeisiwch nawr
Nosweithiau Agored

Ble gallaf astudio?

 

 

 

Gorseinon

Mae’r campws yn darparu ar gyfer mwy na 2,000 o fyfyrwyr amser llawn sydd â mynediad at dros 40 o bynciau Safon Uwch ac ystod eang o gyrsiau galwedigaethol.

 

 

Llwyn y Bryn

Gall myfyrwyr astudio amrywiaeth o feysydd gan gynnwys celf a dylunio, ffasiwn, celfyddyd gain, graffeg, y cyfryngau, ffotograffiaeth a cherddoriaeth.

 

 

 

Tycoch

Mae Tycoch yn Gampws prysur a bywiog i fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol, mynediad a phrentisiaethau.

 

 

Llys Jiwbilî

Mae Llys Jiwbilî yn gartref i brentisiaethau a chyrsiau adeiladu gan gynnwys peintio ac addurno, gwaith brics, gwaith coed a phlastro.

 

Beth yw’r gwahaniaethau a’r pethau tebyg rhwng ysgol a choleg?

Gwahaniaethau

  • Dim gwisg
  • Chi sy’n dewis beth i'w astudio
  • Darlithwyr, nid athrawon
  • Darlithoedd, nid gwersi
  • Amser astudio/rhydd
  • Mwy o gyfrifoldeb
  • Dim clychau

Pethau tebyg

  • Gweithgareddau cyfoethogi
  • Mae’r tiwtoriaid yn eich adnabod
  • Nosweithiau cynnydd
  • Tiwtor personol
  • Adroddiad rheolaidd
  • Cymorth
  • Presenoldeb