Academïau chwaraeon

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymroi i wneud chwaraeon elit a hamdden yn gwbl hygyrch i bob myfyriwr.

Yn yr Academi Chwaraeon, mae sawl ffordd y gall myfyrwyr ymgorffori chwaraeon elit a hyfforddiant ffitrwydd yn eu profiad dysgu heb effeithio ar eu hastudiaethau academaidd.

Bydd ymuno ag un o Academïau Chwaraeon y Coleg yn sicrhau eich bod yn derbyn cyfuniad o hyfforddiant corfforol ac ystwythder meddyliol a fydd yn eich cadw’n effro yn yr ystafell ddosbarth ac yn gryf yn gorfforol – gan eich helpu i gael y cymwysterau academaidd a’r sgiliau chwaraeon gorau. Bydd gennych fynediad i rai o gyfleusterau hyfforddiant chwaraeon gorau Cymru, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg chwaraeon ac offer ffitrwydd arbenigol.

Rhaglen Ysgoloriaeth Chwaraeon

FootballNetballCricketRugbyHockey
 

Beth yw'r rhaglen Ysgoloriaeth Chwaraeon?

Mae ein rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon yn rhoi cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sy’n dangos gallu eithriadol yn un o’ch chwaraeon academi (rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a chriced).

Fel ysgolhaig chwaraeon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, byddwch yn fodel rôl i'ch grŵp cyfoedion ac yn helpu hyfforddwyr yr academi i ddarparu rhaglen chwaraeon o'r safon uchaf.

Disgwylir i ysgolheigion gefnogi gweithgareddau recriwtio'r coleg a mynychu nosweithiau agored.

Byddwch yn cwrdd â'ch mentor ddwywaith yn ystod y flwyddyn i drafod eich datblygiad ac unrhyw gymorth penodol sydd ei angen arnoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin a bydd y panel yn gwneud ei benderfyniadau erbyn 1 Gorffennaf.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Gall unrhyw fyfyrwyr wneud cais am ysgoloriaeth chwaraeon ar yr amod bod tystiolaeth ganddynt eu bod yn gallu cael lle ar un o'n cyrsiau amser llawn neu gael eu derbyn i'r academïau chwaraeon.

I gadw eich cyllid ysgoloriaeth, mae'n rhaid i chi fynychu dosbarthiadau yn gyson a pharhau i lwyddo'n academaidd trwy gydol eich amser yn y coleg.

Sylwch: nid oes rhaid i chi wneud cais am gwrs yn yr un maes â'ch sgiliau arbennig (e.e. gallwch chwarae pêl-droed ac astudio peirianneg neu Safon Uwch).

Am wybod rhagor?

Cysylltwch â'r Cydlynydd Chwaraeon Marc O’Kelly trwy'r e-bost marc.okelly@gowercollegeswansea.ac.uk

 

Rhaglen Bwrsariaeth Chwaraeon?

Beth yw’r rhaglen Bwrsariaeth Chwaraeon?

Yn ogystal â’r ysgoloriaethau chwaraeon sydd ar gael i athletwyr talentog, mae ein rhaglen bwrsariaeth chwaraeon yn cynnig manteision pellach gan gynnwys cymorth ariannol ar gyfer costau cystadlu, hyfforddi a ffordd o fyw, a mynediad rhad ac am ddim i gyfleusterau campfa Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae symiau’r fwrsariaeth yn cael eu dyfarnu fesul achos nes i’r gronfa ddod i ben.

Bydd mentor ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad i’r myfyrwyr sy’n derbyn bwrsariaethau.

Bydd ceisiadau am fwrsariaethau yn agor ar 1 Medi.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Gall unrhyw fyfyriwr wneud cais am fwrsariaeth ar yr amod y gallant ddarparu prawf eu bod yn gallu sicrhau lle ar un o’n cyrsiau amser llawn.

Rhaid i bob darpar ymgeisydd gystadlu yn un o gampau Cymdeithas y Colegau y mae gan y coleg gysylltiad â hi a/neu ddisgyblaeth Olympaidd gydnabyddedig. Ni fydd ceisiadau y tu allan i’r paramedrau hyn yn cael eu hystyried.

Am wybod rhagor?

Cysylltwch â'r Cydlynydd Chwaraeon Marc O’Kelly trwy'r e-bost marc.okelly@gowercollegeswansea.ac.uk