Pa fath o gwrs sy’n addas i chi?
Rydym yma i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y cwrs iawn fel eich bod yn gallu dilyn yr yrfa o’ch dewis. Mae gennym dîm o bobl sy’n gallu mynd trwy’r holl ddewisiadau gyda chi. Siaradwch â nhw pan fyddant yn ymweld â’ch ysgol, dewch i un o’n nosweithiau agored neu galwch heibio i weld un o’n hymgynghorwyr myfyrwyr ar gampws Gorseinon neu gampws Tycoch. Nid dim ond y pwnc y mae’n rhaid i chi feddwl amdano ond hefyd:
- Aseiniadau: ar rai cyrsiau, mae arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn, asesir rhai cyrsiau trwy waith cwrs yn unig, ac mae cyrsiau eraill yn cynnwys cyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs.
- Assignments: cofiwch holi ynghylch faint o aseiniadau y bydd disgwyl i chi eu cwblhau, yn enwedig os ydych yn dewis astudio tri neu bedwar cwrs Safon Uwch.
- Gwaith ychwanegol: bydd rhai cyrsiau’n cynnwys lleoliadau gwaith, ymweliadau addysgol neu brosiectau y tu allan i oriau felly cofiwch holi yn ystod y cyfweliad.
- Costau: bydd costau ychwanegol ar rai cyrsiau ar gyfer pethau fel gwisg ac offer felly gwnewch yn siŵr eich bod yn holi ynghylch hyn.
Safon Uwch
Yn gyffredinol, mae pynciau Safon Uwch yn cael eu hastudio dros ddwy flynedd ac yn cael eu rhannu’n ddwy ran. Y flwyddyn gyntaf yw’r Safon UG, gydag asesiadau allanol ar y diwedd. Yna byddwch yn symud ymlaen i Safon U2 yn yr ail flwyddyn gyda rhagor o arholiadau i ennill y Dyfarniad Safon Uwch llawn. Rydym yn cynnig tua 40 o bynciau Safon Uwch ar ein campws yng Ngorseinon.
Galwedigaethol
Mae ein cyrsiau galwedigaethol wedi’u dylunio i arwain at yrfaoedd penodol ac felly os ydych yn gwybod pa swydd yr hoffech ei gwneud pan fyddwch yn gadael y coleg, bydd y cyrsiau hyn yn addas i chi. Mae gwahanol lefelau ac felly gallwch ddewis yr un sydd orau i chi, gyda’r cyfle i symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rydym yn cynnig cymwysterau BTEC, NVQ a City & Guilds.
Prentisiaethau
Ydych chi am ennill wrth ddysgu? Ariennir rhaglenni Prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n rhoi cyfle i chi gael profiad a chymwysterau wrth weithio – ac ni fyddant yn costio ceiniog i chi. Mae dewis o bron 50 o lwybrau gyrfa gwahanol gennym, felly cysylltwch â ni heddiw i wybod rhagor neu i gael cymorth i ddod o hyd i gyflogwr: wbladmissions@gcs.ac.uk
Meysydd cwrs i ymadawyr ysgol
Porwch drwy ein cyrsiau i ymadawyr ysgol isod, neu lawrlwytho fersiwn PDF o’r canllaw cyrsiau i ymadawyr ysgol.
Chwilio am rhestr gyflawn o gyrsiau Safon Uwch? Cer i’n tudalen Safon Uwch.