Os ydych chi'n athro neu'n athrawes, darllenwch ymlaen i gael gwybod sut y gallwn ni helpu i baratoi eich disgyblion ar gyfer y naid i addysg bellach. Rydym ni'n eithaf hyblyg felly os na allwch chi gael hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech chi deilwra gweithgaredd i anghenion eich ysgol chi, ffoniwch ni.


Anerchiadau ysgolion

Chweched dosbarth? Coleg? Gwaith? Mae'n benderfyniad anodd i ddisgyblion Blwyddyn 11 a gall fod yn eithaf brawychus, yn enwedig gyda'r pwysau ychwanegol o waith cwrs ac arholiadau TGAU. Rydym ni am i'ch disgyblion wneud y penderfyniad iawn am eu dyfodol ac mae gennym ni dîm o arbenigwyr wrth law i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd! Dan arweiniad ein cydlynydd cyswllt ysgolion, Sian, mae ein cynghorwyr myfyrwyr yn ymweld ag ysgolion ar draws yr ardal i sôn am fywyd coleg a'r gwahanol lwybrau astudio sydd ar gael, gan ateb unrhyw gwestiynau a phryderon sydd gan ddisgyblion. Os ydych chi am i'n tîm ymweld â'ch ysgol chi, cysylltwch â Sian.

Sesiynau blasu a theithiau

Rydym yn gwybod y gall pontio o’r ysgol i’r coleg fod yn llethol i rai pobl ifanc ac felly rydym am eu paratoi cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer bywyd coleg. Mae'r tîm yn trefnu teithiau rheolaidd fel y gall eich disgyblion gael rhyw deimlad o sut brofiad ydyw i fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ac nid dyna’r cyfan! Mae'r tîm hefyd yn trefnu sesiynau blasu mewn gwahanol feysydd pwnc fel y gall eich disgyblion weld sut gwrs ydyw cyn cofrestru. Edrychwch ar ein Cynllunydd Gweithgareddau Ysgol.

Activity Planner