Chwaraeon a Ffitrwydd

 

Cynigir amrywiaeth o gyrsiau ar gampysau Gorseinon a Thycoch. Mae Safon Uwch Addysg Gorfforol hefyd ar gael yng Ngorseinon. 

Mae gan fyfyrwyr amser llawn gyfle i wneud cais i un o’n Hacademïau Chwaraeon ac mae ysgoloriaethau hefyd ar gael. 

Bob blwyddyn, mae myfyrwyr yn rhagori ar ddigwyddiadau unigol a thîm, gan gynnwys digwyddiadau Colegau Cymru a Cholegau Prydain. Mae myfyrwyr hefyd yn ymwneud â hyfforddi mewn ysgolion cynradd lleol.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon.

Cynigir cyrsiau rhan-amser mewn Hyfforddi Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol.

Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn Nhycoch yn cynnig cyfleusterau ardderchog i’r holl fyfyrwyr a’r staff.

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth

Academïau Chwaraeon

Yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael y cymwysterau academaidd gorau wrth berffeithio eu sgiliau chwaraeon yn y coleg.

Academïau mewn pêl-droed (dynion a merched), rygbi, hoci, criced a phêl-rwyd.

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael.

 

Ysgoloriaethau Chwaraeon

Bwriad rhaglen ysgoloriaeth y coleg yw cynorthwyo myfyrwyr â gallu academaidd, creadigol neu chwaraeon eithriadol i ddatblygu eu doniau i’w llawn botensial. Gall y cynllun hwn ddarparu cymorth ariannol tuag at deithio, hyfforddi o safon, cystadlu ar y lefel uchaf, trin a rheoli anafiadau chwaraeon, cymwysterau hyfforddi, profiad hyfforddi trwy gynlluniau cymunedol a chymorth i ennill contractau proffesiynol.

Roedd grŵp o un deg saith o bobl ifanc wedi ennill ysgoloriaethau i fynychu’r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Gwyr Abertawe yn ystod 2014/15.

Dw i o hyd wedi bod yn frwdfrydig dros ffitrwydd ac roeddwn i am weithio yn y diwydiant. Mae’r cwrs Hyfforddi ar gyfer Ffitrwydd wedi rhoi’r cyfle i fi wneud hynny a rhannu fy mrwdfrydedd ag eraill. "

Ryan McEwan, Tystysgrif mewn Hyfforddi ar gyfer Ffitrwydd