Academïau chwaraeon

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymroi i wneud chwaraeon elit a hamdden yn gwbl hygyrch i bob myfyriwr.

Yn yr Academi Chwaraeon, mae sawl ffordd y gall myfyrwyr ymgorffori chwaraeon elit a hyfforddiant ffitrwydd yn eu profiad dysgu heb effeithio ar eu hastudiaethau academaidd.

Bydd ymuno ag un o Academïau Chwaraeon y Coleg yn sicrhau eich bod yn derbyn cyfuniad o hyfforddiant corfforol ac ystwythder meddyliol a fydd yn eich cadw’n effro yn yr ystafell ddosbarth ac yn gryf yn gorfforol – gan eich helpu i gael y cymwysterau academaidd a’r sgiliau chwaraeon gorau. Bydd gennych fynediad i rai o gyfleusterau hyfforddiant chwaraeon gorau Cymru, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg chwaraeon ac offer ffitrwydd arbenigol.

Yn ogystal â'r chwaraeon a restrir isod, mae gennym Academi Criced, Clwb Pêl-fasged, a Chlwb Syrffio ac Achub Bywyd. Mae hefyd gennym Rhaglen Athletwyr Elit i fyfyrwyr sy’n cystadlu ac yn hyfforddi mewn rhaglenni chwaraeon elit allanol gan gynnwys criced, athletau, seiclo, crefftau ymladd a nofio.

Rhaglen Ysgoloriaeth Chwaraeon

Mae rhaglen ysgoloriaethau’r Coleg yn rhoi cymorth ariannol a mentoriaeth i fyfyrwyr dethol. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos gallu eithriadol yn un o’n hacademïau chwareon.

Mae bwrsarïau chwaraeon yn rhedeg ochr yn ochr â’r ysgoloriaethau i athletwyr o ddisgyblaethau eraill, seiliedig ar berfformiad rhagorol.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: academy@gcs.ac.uk