Cyrsiau amser llawn ar gael ar gyfer ymadawyr ysgol
Mae astudio gyda’r Coleg yn gam cyffrous ar dy daith tuag at sicrhau annibyniaeth a dyfodol disglair!
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n dy ganiatáu i archwilio dy angerdd wrth ennill y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau dy yrfa ddelfrydol. Rydyn ni yma i dy arwain drwy’r cyfnod pontio cyffrous i Goleg Gŵyr Abertawe, gan gynnig gogwydd newydd ar dy astudiaethau.
Canllaw Cyrsiau i Ymadawyr Ysgol
Edrycha ar ein cyrsiau Safon Uwch, galwedigaethol a phrentisiaeth amser llawn a dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael, bywyd myfyrwyr a’r broses ymgeisio.
Lawrlwytho canllaw cyrsiau i ymadawyr ysgol (PDF)Pori drwy ein meysydd cwrs i ymadawyr ysgol
Nosweithiau agored sydd i ddod
Mae ein digwyddiadau a’n nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sut i wneud cais
Po gynharaf y gwnewch gais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael lle ar eich cwrs dewis cyntaf.
Ar ôl i chi ddewis eich cwrs, gallwch ymgeisio ar-lein.
Os ydych yn ddisgybl yn Ninas a Sir Abertawe, gallwch wneud cais trwy Fy Newis.
Ar ôl cael eich cais, byddwn yn anfon pob gohebiaeth bellach atoch drwy e-bost (neu drwy lythyr os nad oes e-bost gennych), felly defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol ac nid eich cyfeiriad e-bost ysgol.
Archwiliwch ein campysau
Gorseinon
Mae’r campws yn darparu ar gyfer mwy na 2,000 o fyfyrwyr amser llawn sydd â mynediad at dros 40 o bynciau Safon Uwch ac ystod eang o gyrsiau galwedigaethol.
Llwyn y Bryn
Gall myfyrwyr astudio amrywiaeth o feysydd gan gynnwys celf a dylunio, ffasiwn, celfyddyd gain, graffeg, y cyfryngau, ffotograffiaeth a cherddoriaeth.
Tycoch
Mae Tycoch yn Gampws prysur a bywiog i fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol, mynediad a phrentisiaethau.
Llys Jiwbilî
Mae Llys Jiwbilî yn gartref i brentisiaethau a chyrsiau adeiladu gan gynnwys peintio ac addurno, gwaith brics, gwaith coed a phlastro.
Beth yw’r gwahaniaethau a’r pethau tebyg rhwng ysgol a choleg?
Gwahaniaethau
- Dim gwisg
- Chi sy’n dewis beth i'w astudio
- Darlithwyr, nid athrawon
- Darlithoedd, nid gwersi
- Amser astudio/rhydd
- Mwy o gyfrifoldeb
- Dim clychau
Pethau tebyg
- Gweithgareddau cyfoethogi
- Mae’r tiwtoriaid yn eich adnabod
- Nosweithiau cynnydd
- Tiwtor personol
- Adroddiad rheolaidd
- Cymorth
- Presenoldeb