Cymorth i fyfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fynd iddo i gael gwybodaeth, cymorth a chyngor ar bopeth o yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae ein staff sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r myfyrwyr ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.

Cymorth dysgu

Rydym yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid os oes angen offer arbenigol arnoch.


 

Cymorth ariannol

Gall arian fod yn gymhleth ac mae llawer i’w ddeall. Gobeithio y bydd yr wybodaeth isod yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Ydw i’n gymwys i gael arian?

Os ydych chi’n ddinesydd y DU neu’r AEE a fydd yn astudio addysg bellach yn y Coleg yn amser llawn (15+ awr yr wythnos) nid oes rhaid i chi dalu ffioedd dysgu, ond bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr amser llawn dalu ffi gofrestru pan fyddan nhw’n ymuno â’r Coleg. 

Ar rai cyrsiau, e.e. trin gwallt, arlwyo neu'r celfyddydau, gall fod costau ychwanegol i'w talu ar gyfer cyfarpar neu ddillad arbenigol. Rhoddir manylion i chi yn ystod y broses ymgeisio a chofrestru.

Os ydych yn ymuno â’r coleg yn rhan-amser, bydd gofyn i chi dalu ffioedd dysgu. Argymhellir eich bod yn ceisio arweiniad gan eich cydlynydd cwrs cyn cofrestru i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth am y ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cwrs o’ch dewis.

Er enghraifft, bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio cymhwyster proffesiynol a redir gan sefydliad siartredig dalu ffi am bob arholiad maen nhw’n ei sefyll, ac felly mae’n werth cael y ffeithiau i gyd cyn penderfynu.

O ran ffioedd cyrsiau unigol o £100 neu fwy, gallwch wneud cais i dalu mewn rhandaliadau (codir ffi weinyddu o £10 am hyn).

Mae ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol.

Ydw i’n gymwys i gael unrhyw gymorth ariannol?

Yn y Coleg deallwn fod amgylchiadau pawb yn wahanol, felly gwnawn ein gorau i'w gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl astudio'r cwrs o'u dewis, hyd yn oed os yw'n golygu y bydd rhaid i chi gael hyd i ychydig o arian ychwanegol i dalu am gostau cyfarpar neu ddeunyddiau dysgu. Mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yn y Coleg.

I siarad ag aelod o’r Tîm Cyllid Myfyrwyr, ffoniwch Gampws Gorseinon ar 01792 890700 / 07500 559123 neu Gampws Tycoch ar 01792 284000 / 07500 559246 neu e-bostiwch studentfunding@gcs.ac.uk.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg [LCA]
Mae’r LCA yn grant prawf modd o £30 yr wythnos sy’n ceisio helpu pobl ifanc 16-18 oed gyda chostau addysg bellach.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan LCA  neu cysylltwch â'r Coleg yn Nhycoch ar 01792 284000 neu yng Ngorseinon ar 01792 890700. Mae ffurflenni cais Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gael yn swyddfa cyllid myfyrwyr y Coleg.

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn [CAWG]
Mae’r CAWG yn gronfa caledi sy’n agored i fyfyrwyr amser llawn. Gall y gronfa helpu i gefnogi costau hanfodol cysylltiedig â chyrsiau fel offer cwrs, llyfrau, gofal plant, gwiriadau DBS a chludiant.

Mae’r CAWG yn dibynnu ar brawf modd seiliedig ar incwm y cartref sy’n rhaid bod yn llai nag £20,000 y flwyddyn er mwyn i fyfyrwyr fod yn gymwys. Dyrennir arian ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd angen i chi ddarparu prawf o incwm y cartref ac, os yw’n berthnasol, prawf o’ch statws preswyl.

Mae Cronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG) y Coleg yn agor ddydd Iau 1 Mehefin 2023. Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein neu yn swyddfa cyllid myfyrwyr y Coleg.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer AB (GDLlC)
Mae GDLlC yn grant prawf modd sy’n darparu cyllid i helpu gyda chostau eich addysg os ydych chi’n 19 oed neu hŷn. Os ydych yn astudio’n amser llawn, fe allech chi gael taliadau o hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio’n rhan-amser, fe allech chi gael hyd at £750 y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu cysylltwch â’r Coleg yn Nhycoch ar 01792 284000 neu yng Ngorseinon ar 01792 890700. Mae ffurflenni cais ar gael o Cyllid Myfyrwyr Cymru neu yn swyddfa cyllid myfyrwyr y Coleg.

Gwiriadau DBS 

Oes rhaid i mi dalu am wiriad DBS?
Yn ystod y cyfweliad byddwn wedi dweud wrthych a oes angen gwiriad DBS arnoch er mwyn mynd ar leoliad gwaith strwythuredig fel rhan o'ch cwrs. Bydd y gwiriad yn costio £38, ond gall hyn newid (gallwch wneud cais am arian CAWG i dalu'r gost). Os nad ydych yn caael gwiriad DBS ni fyddwch yn gallu cwblhau'ch cwrs.

Teithio

Ar hyn o bryd mae tocyn bws wedi’i gymorthdalu ar gael i’r myfyrwyr amser llawn.

Yn Nhycoch, Ffordd y Brenin a Llwyn y Bryn gall myfyrwyr brynu Tocyn Bws First Cymru. Gallwch ddefnyddio’r tocyn hwn i gyrraedd a gadael y coleg a gallwch ei ddefnyddio gyda’r hwyr ac yn ystod y penwythnos yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd ar fysiau First Cymru.

 

Bus Pass

Cymorth academaidd arbenigol

Dechreuwch eich taith i’r prifysgolion gorau gyda’n Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt, HE+ a rhagor.

students

Yr iaith Gymraeg

Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gydag iaith a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg. Rydym yn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr I ddefnyddio’u Cymraeg.

Gwybod rhagor

Welsh student

BJBF

Hybiau'r Dyfodol 

Mae ein rhaglen cyflogadwyedd Gwell Swyddi,Gwell Dyfodol yn cynnig amrywiaeth eang ogymorth cyflogaeth. Mae ein Hybiau'r Dyfodol wedi'u lleoli ar Gampws Tycoch a Champws Gorseinon. 

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol.
Rhagor o wybodaeth

 

Diogelu

Mae diogelu yn golygu amddiffyn pobl rhag niwed, cam-drin a/neu esgeulustod.

Cam-drin  pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth sy’n gallu achosi niwed i unigolyn arall. Gallai hyn fod yn niwed emosiynol a/neu gorfforol.
Esgeulustod  pan nad yw pobl yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arnynt i fyw eu bywydau. Gall hyn gynnwys hunanesgeulustod.
Datgelu  o ran diogelu, byddai hyn yn gwneud rhywun yn ymwybodol o sefyllfa lle mae niwed, cam-drin a/neu esgeulustod.

Os oes gennych unrhyw bryderon ac mae angen i chi siarad â Swyddog Diogelu, cysylltwch ag Anne Pitman, Rheolwr Diogelu a Lles Dysgwyr ar 01792 284000 neu e-bostiwch anne.pitman@gcs.ac.uk

Cam un - datgelu (os oes gennych bryder ynghylch diogelu)

Yn gyntaf, gallwch siarad ag un o’r Swyddogion Diogelu yn y Coleg*.

Anne Pitman: 01792 284000
Cathy Thomas: 07946 373 455
Vicki Wannell: 07393 789 288
Naima Khanom: 07768 035 787
Tamsyn Oates: 07867 135 815 
Ryan McCarley: 
07917 352 153
Ian Billington: 07880 089 048
Mohammed Qasim: 07917 136 101

Yna cewch gyfle i drafod eich pryderon â Swyddog Diogelu yn breifat.

Gallwch fynd â ffrind gyda chi ar gyfer cefnogaeth foesol.

Bydd y Swyddog Diogelu yn cymryd nodiadau ac efallai y bydd yn gofyn am ragor o wybodaeth. 

Bydd cyfrif manwl o’r datgeliad yn cael ei greu. Yn dibynnu ar natur eich pryder diogelu, efallai y bydd angen rhagor o dystiolaeth.

* Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg ffoniwch ein prif dderbynfa ar 01792 284000 (Tycoch) neu 01792 890700 (Gorseinon).

Cam dau - atgyfeirio

Bydd y Swyddog Diogelu yn crynhoi’r wybodaeth a ddatgelwyd ac esbonio’r camau nesaf.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pwy ddylai dderbyn yr atgyfeiriad – gallai hyn fod yr heddlu a/neu wasanaethau cymdeithasol neu unigolyn uwch yn y Coleg.

Os oes gan y Swyddog Diogelu unrhyw gwestiynau pellach, mae’n bosibl y cewch eich galw yn ôl i gael trafodaeth arall.

Cam tri - y drefn nesaf (os bydd angen atgyfeiriad)

Bydd yr heddlu am siarad â chi a chymryd eu datganiad eu hunain. Mae ganddyn nhw’r grym i roi mesurau ar waith i’ch cadw yn ddiogel cyn cysylltu â’r tramgwyddwr.

Bydd gwasanaethau cymdeithasol am siarad â chi a chymryd eu datganiad eu hunain. Byddan nhw’n rhoi mesurau ar waith i’ch cadw’n ddiogel a byddan nhw’n cysylltu â’r heddlu.

Bydd gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu weithiau yn gweithio gyda’i gilydd wrth gymryd datganiadau ac os felly ni fydd rhaid i chi siarad â’r ddau barti ar wahân.

Cymorth y Coleg – bydd y rheolwr maes dysgu perthnasol yn ymwneud â’r achos os digwyddodd ar y campws a bydd yn dilyn y Cod Ymddygiad/polisïau a gweithdrefnau perthnasol.

Cam pedwar - cymorth parhaus

Gallwch gael Swyddog Cymorth Myfyrwyr a fydd yn darparu cymorth penodedig un-i-un. Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe saith Swyddog Cymorth Myfyrwyr ar draws pedwar campws.

Os bydd atgyfeiriad yn berthnasol, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Gwnselwyr hyfforddedig ar y safle (Gwasanaeth Cwnsela The Exchange).

Pethau i’w cofio

Ni ellir addo anhysbysrwydd i ddioddefwr, ond gellir darparu cymorth o ddechrau’r broses ddatgelu a hyd nes bydd ei angen.

Os byddwch yn datgelu bod niwed, cam-drin neu esgeulustod yn digwydd i rywun, ni allwn gadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol. Os ydych yn 16 neu 17 oed, fe’ch ystyrir yn blentyn o dan y gyfraith ac felly, pan fydd datgeliad yn cael ei wneud, gellir mynd â hyn ymhellach gyda’ch caniatâd neu hebddo.