Sut i wneud cais a chofrestru ar gyfer cwrs rhan-amser
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Bydd y ffordd y byddwch yn gwneud cais a chofrestru yn dibynnu ar y math o gwrs rhan-amser a ddewiswch.
Ar gyfer cyrsiau addysg uwch / prifysgol, rhaid i chi wneud cais trwy’r botwm 'lenwi ein ffurflen ymholiad Addysg Uwch' ar dudalen wybodaeth y cwrs perthnasol.
Ar gyfer cyrsiau ein braich hyfforddiant busnes (Hyfforddiant GCS) bydd rhaid ffonio 01792 284400 i ymholi a chadw lle.
Ar gyfer yr holl gyrsiau rhan-amser eraill dilynwch y dolenni ar dudalen y cwrs perthnasol. Os gwelwch opsiwn www ar dudalen y cwrs, gallwch gofrestru’n uniongyrchol trwy’r wefan.
Os bydd angen cyfweliad, mae hwn fel arfer yn digwydd dros y ffôn a byddwn ni’n anfon dolen ddiogel atoch er mwyn cofrestru ar ôl eich trafodaeth gyda’r tîm cwricwlwm. Neu, dewch i siarad â ni yn ein nosweithiau agored.
Os na allwch gofrestru ar-lein, dewch i gampws Tycoch rhwng 9am a 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Rhaid bod dysgwyr yn 16 oed neu hŷn er mwyn cofrestru ar un o’n cyrsiau rhan-amser.
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol, bydd cost y cyrsiau’n dibynnu ar statws preswylio a faint o amser a dreulir yn y DU. Ffoniwch ein swyddfa Ryngwladol ar 01792 284007 neu e-bostiwch international@gcs.ac.uk
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae’r Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (CDP), wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi modd i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf gael mynediad i gyrsiau rhan-amser am ddim.
Darganfyddwch ragor am CDP a’r cyrsiau sydd ar gael.
Dychwelyd i'r dudalen cyrsiau rhan-amser