Coleg yn cadw statws Platinwm
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cadw ei statws Partner Dysgu Cymeradwy Platinwm ACCA ar ôl pum mlynedd o ddarpariaeth ymroddedig.
Ar hyn o bryd, ni yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i gael y statws hwn, y mae mawr alw amdano, gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, o ganlyniad i’r hyfforddiant a’r cymorth o safon a ddarperir i’n myfyrwyr cyfrifeg.