Diweddariad pwysig: graddio arholiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch 2021
Yn ddiweddar (dydd Mercher 20 Ionawr), mae’r Gweinidog Addysg yng Nghymru wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch graddio cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch yn 2021.
Fel Coleg rydym nawr yn aros am ragor o fanylion gan y cyrff dyfarnu a byddwn yn cysylltu â’n holl fyfyrwyr maes o law i amlinellu sut y byddwn yn datblygu cynlluniau a phrosesau asesu ar gyfer penderfynu graddau terfynol.