Skip to main content

Cleientiaid Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn mynd o nerth i nerth yn Bevan Buckland

Ers lansio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn 2017, mae ein perthynas â’r Cyfrifwyr Siartredig, Bevan Buckland, wedi parhau i gryfhau. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n prentisiaid yn barhaus, ac maent yn cyflwyno sesiynau yn rheolaidd i rannu eu cyngor arbenigol a’u gwybodaeth am y diwydiant. Dros y 5 mlynedd diwethaf maent hefyd wedi mynychu ein Ffeiriau Recriwtio blynyddol a chynnig siaradwyr gwadd ar gyfer digwyddiadau Academi Dyfodol.

£6.6m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi rhaglen cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe

Mae buddsoddiad o £6.6m gan yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sicrhau i ehangu ac ymestyn rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe tan 2021.

Fel rhan o’r rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’, caiff pum prosiect newydd eu darparu gan Goleg Gŵyr Abertawe mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol.

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobl sy’n ddi-waith, sydd wedi’u tangyflogi, neu sydd mewn swyddi cyflog isel. Bydd y rhaglen yn darparu ystod o gefnogaeth, megis hyfforddiant, mentora, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd i ennill cymwysterau.

Tagiau

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – blwyddyn yn ddiweddarach

Mae rhaglen gyflogaeth sy’n cael ei rhedeg gan Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu cyflogaeth a chymorth gyrfaol wedi’u teilwra i unigolion di-waith sy'n chwilio am waith ac i bobl sydd eisoes mewn gwaith sy'n chwilio am well cyflogaeth. Gall y rhaglen hefyd gynorthwyo busnesau sy'n bwriadu ehangu eu gweithlu.

Mewn dim ond 12 mis, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi cefnogi dros 700 o unigolion - pobl fel Sean, a ddaeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl bod yn ddi-waith am wyth mis.

Tagiau

Rhaglen gweithlu Abertawe yn parhau i dyfu

Mae rhaglen newydd sy'n ceisio cryfhau gweithlu Abertawe wedi croesawu sawl penodiad newydd i'r tîm.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sy'n cael ei redeg gan Goleg Gŵyr Abertawe, wedi recriwtio nifer o aelodau staff newydd o fewn ei dimau Gweithlu a Recriwtio i ddatblygu ymhellach eu cymorth ar gyfer busnesau lleol.

Mae Louise Dempster, Beth Fisher, Zoe Williams, a Mark James yn ymuno â'r tîm fel Cynghorwyr Gweithlu, gan helpu cyflogwyr lleol i ehangu a chryfhau eu gweithlu, a rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra iddynt.