Treial Academi Bêl-droed Pro:Direct - Dydd Mercher 12 Ebrill
Yn dilyn llwyddiant y treial agored ym mis Chwefror, mae Pro:Direct yn hapus o gyhoeddi treial arall ar ddydd Mercher, 12 Ebrill.
Mae’r treial yn agored i fechgyn Blwyddyn 11 sy’n chwarae pêl-droed, a bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 3G (SA4 4LP), 10am-12pm.
Dwy fuddugoliaeth i dîm pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe
Mae tîm pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael dau lwyddiant yn ddiweddar.
Fe wnaeth buddugoliaeth 8-7 yn erbyn Coleg Gwent Cross Keys yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru sicrhau record chwe-gêm perffaith iddyn nhw, gan eu gwneud yn Bencampwyr Colegau Cymru 2022-23!
Yn ogystal, cafodd saith chwaraewr eu dewis ar gyfer treialon Pêl-rwyd Colegau Cymru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: