Skip to main content

Gwaith ailddatblygu Plas Sgeti yn parhau

Mae’r gwaith o drawsnewid Plas Sgeti yn Ysgol Fusnes go iawn yn mynd rhagddo’n dda.

Er bod Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i fod ar gau ar gyfer dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb, mae’r adran Ystadau wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni yn sicrhau bod gwaith ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd II yn parhau.

Mae’r rhan fwyaf o’r trydanwaith newydd bellach wedi’i osod, ac mae gwaith peintio ac addurno yn digwydd ar draws y llawr gwaelod.

Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno â Grŵp Collab o Golegau

Mae’r Grŵp Collab o Golegau yn falch o gyhoeddi Coleg Gŵyr Abertawe fel ei aelod mwyaf newydd.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru,  mae ganddo enw da iawn a bydd yn ychwanegiad gwych i’n rhwydwaith o golegau blaengar.

Mae’r Coleg yn ymfalchïo yn ei ddarpariaeth cyrsiau Safon Uwch, galwedigaethol, proffesiynol ac addysg uwch o safon uchel, yn ogystal â phortffolio prentisiaethau cynyddol a addysgir mewn partneriaeth â chyflogwyr allweddol.

Tagiau

Recriwtio aelodau newydd i fwrdd y gorfforaeth

Mae Bwrdd Corfforaeth y Coleg, corff o 20 o aelodau, yn gyfrifol am solfedd ariannol y Coleg, ei reolaeth gadarn ac ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am y defnydd iawn o’r cyllid cyhoeddus a ymddiriedwyd iddo.

Cyfrifoldeb y gorfforaeth yw dod â barn annibynnol i drafod materion strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad.

Yn yr ychydig fisoedd nesaf mae Bwrdd y Gorfforaeth yn disgwyl i nifer y swyddi gwag i aelodau o’r bwrdd godi ac mae’n awyddus i recriwtio pobl sy’n teimlo y gallant wneud cyfraniad i’r Coleg trwy’r Bwrdd.

Tagiau

Saith gyrfa y gallech eu lansio ar ôl y Coleg

Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn nodi'r bennod nesaf ym mywyd oedolyn ifanc. Wrth i chi symud yn nes at fyd go iawn addysg uwch a chyflogaeth, mae penderfynu ar gynllun ar gyfer y dyfodol yn gallu ymddangos yn dipyn o dasg.

Efallai y bydd rhai yn gwneud penderfyniadau mympwyol ynghylch eu cyrsiau Safon Uwch/galwedigaethol, heb feddwl llawer am y peth (os o gwbl). Ond mae'n bwysig cofio y gall y dewisiadau hynny ddylanwadu ar eich dyfodol. Felly, dewiswch yn ddoeth!

Coleg yn ennill gwobr Efydd am fentrau iechyd a lles

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Efydd Safon Iechyd Corfforaethol am ei ymroddiad i ddarparu mentrau iechyd a lles i'w staff.

Mae'r Safon Iechyd Corfforaethol yn rhan o raglen Cymru Iach ar Waith ac yn farc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle.

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, bu ystod o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar staff, megis seremoni wobrwyo gwasanaeth hir ar gyfer y rhai sydd wedi gweithio yn y Coleg ers dros 20 mlynedd, a pharti dathlu i gydnabod arolygiad cadarnhaol Estyn.

Tagiau

Arweinydd lleol a’r Coleg ar restr fer gwobrau arweinyddiaeth genedlaethol Cymru

Mae Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, wedi’i enwi fel terfynwr yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.

Mae Gwobrau Arwain Cymru 2018 – mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth – wedi cyhoeddi rhestr fer eleni a chynhelir eu cyfweliadau beirniadu ddydd Iau 12 Gorffennaf.

Enwebwyd Mark yn y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus am ei rôl fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe – sef un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru – ac mae’n un o ond pedwar terfynwr yn y categori.

Tagiau

Cyfarwyddwr AD Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill prif wobr genedlaethol

Roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, wedi ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn yng Ngwobrau AD Cymru 2018 mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd ddydd Gwener.

Y seremoni wobrwyo – sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr Adnoddau Dynol ledled Cymru – yw’r digwyddiad pwysicaf yn Rhwydwaith AD Cymru, grŵp proffesiynol blaengar sy’n rhwydweithio ac yn rhannu syniadau, a grëwyd ac a reolir gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray yng Nghaerdydd ac Acorn, prif arbenigwyr recriwtio Cymru. 

Tagiau

Dau benodiad newydd i Goleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Dirprwy Bennaeth a Chyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes newydd sbon.

Dechreuodd Nick Brazil ei rôl newydd fel Dirprwy Bennaeth ym mis Ionawr. Ymunodd â’r Coleg am y tro cyntaf fel darlithydd Chwaraeon/Addysg Gorfforol yn 1993. Wedyn cafodd ei benodi’n Rheolwr Cymorth Cwricwlwm, yn Gyfarwyddwr Cyfadran ac yna, yn Ddeon Cyfadran – arhosodd yn y rôl honno am saith mlynedd.

Tagiau