Skip to main content

Diweddariad Covid ar gyfer dechrau’r tymor (w/d 25 Ebrill)

Wrth inni agosáu at dymor pwysicaf y flwyddyn i lawer o fyfyrwyr, gydag arholiadau ac asesiadau hanfodol ar y gorwel, byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru (cyhoeddwyd ddydd Gwener 15 Ebrill) a chanllawiau ein Tîm Rheoli Digwyddiadau lleol.

Felly, pan fyddwn yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg, byddwn ni, fel Coleg, yn parhau i ddefnyddio’r mesurau diogelwch Covid cyfredol, sy’n cynnwys:

Neges i ddisgyblion blwyddyn 11 gan y Pennaeth, Mark Jones

Rwy’n mawr obeithio eich bod chi a’ch teulu yn ymdopi cystal ag sy’n bosibl yn ystod y cyfnod hynod rhyfedd ac anodd hwn.

Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae angen i ni i gyd gynnig cymorth ac anogaeth i’n gilydd i ddod drwyddo. Rwy’n gwybod bod eich ysgol yn gwneud gwaith gwych o ran rhoi cymorth i chi, a’i bod yn ymrwymedig i ddyheadau pob un o’i disgyblion ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n adeg bwysicach fyth i chi’ch hunain o ran penderfnynu ble i fynd nesaf yn eich addysg a pha lwybr i’w gymryd.