Tiwtor/Aseswr Peirianneg a chyn-fyfyriwr yn ennill gwobr “Cydweithredu Diwydiannol Academaidd Gorau”
Mae Elizabeth (Lizzie) Roberts, Tiwtor/Aseswr Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a chyn-fyfyriwr HNC, HND a NVQ Lefel 4 wedi cipio’r wobr Cydweithredu Diwydiannol Academaidd Gorau gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o ganlyniad i’w phrosiect traethawd gradd Baglorion Peirianneg Dosbarth Cyntaf.
Myfyriwr Technoleg Peirianneg yn rhagori ar Brentisiaeth Gradd
Mae alwm Technolegau Peirianneg, Fleet Morgan, wedi ei osod ar Brentisiaeth Gradd gyda cwmni, MBDA Missile Systems.
Mae Fleet yn ennill arian wrth ddysgu gan treulio pedwar diwrnod gyda'r cwmni ac un diwrnod yn Prifysgol Swydd Hertford.
Nid yn unig y mae’n cael profiad o wahanol feysydd y cwmni ac yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, ond mae MBDA Missile Systems yn talu ei ffioedd dysgu yn ogystal â chyflog cychwynnol o £14,500 a allai o bosibl gynyddu £4,000 bob blwyddyn tra bydd ar y brentisiaeth.