Skip to main content

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2020

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd i bawb ond mae un peth heb newid – sef disgleirdeb ein dysgwyr a’n cleientiaid.

Ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn academaidd anghyffredin a heriol iawn, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnal ei seremoni Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir gyntaf.

Cynhaliwyd y Gwobrau Rhithwir ar ffurf fideo ar wefan y Coleg ac roeddent yn cynnwys cyfraniadau gan y cyflwynydd rheolaidd Kev Johns MBE a Chôr Cyfnod Clo y Coleg, a ganodd ddatganiad teimladwy o’r clasur Lean on Me.