Bwrsariaeth addysgu dwyieithog ar gael i ddysgwyr Cymraeg
Fel rhan o’n nod o ddatblygu gweithlu dwyieithog a hyfforddi staff newydd i gynnig y Gymraeg i’n dysgwyr, mae’r cyfle gwych yma ar gael i chi.
Os ydych yn siarad Cymraeg ac yn cysidro gwneud cymhwyster TAOR er mwyn cymhwyso fel tiwtor neu ddarlithydd yn y sector ôl 16, mae cyfle gwerthfawr i chi ymarfer mewnosod y Gymraeg yn y dosbarth gyda grwpiau dwyieithog. Byddwch yn gymwys i wneud cais am y fwrsariaeth addysgu ddwyieithog gwerth £500 y flwyddyn.
Wythnos Gymraeg
Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi.
Cawsom fore coffi ar bob campws, gyda chacennau hyfryd gan un o’n myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Busnes, Heledd Hunt sydd a busnes ei hun ar instagram @helsbakescakes. Wrth gwrs roedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr a staff hefyd!
Cafwyd perfformiadau gan Dafydd Mills o Menter Abertawe ar gampws Llwyn y Bryn a Cwrt Jiwbili a Ed Holden aka Mr Phormula bitbocsiwr a rapiwr Cymraeg ar gampws Tycoch a Gorseinon.
Y Fari Lwyd yn dod yn fyw yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Cynhaliwyd y dathliad diwylliannol Cymreig o’r 17eg ganrif ar ein campysau yn Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon, wrth i fflach-berfformiad o geffyl y Fari Lwyd wneud ei ffordd drwy’r safleoedd.
Yn draddodiadol, mae’r Fari Lwyd yn ddathliad Blwyddyn Newydd i nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf ac i groesawu’r gwanwyn. Ar un adeg roedd yn cael ei dathlu ledled Cymru, ond erbyn hyn mae’n draddodiad sy’n gysylltiedig â de a de-ddwyrain y wlad.
Gwobrau Santes Dwynwen
Ar ddydd Llun 25 Ionawr, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Dydd Santes Dwynwen ychydig yn wahanol.
Penderfynon ni roi gwobrau am straeon cadarnhaol drwy ofyn i staff a dysgwyr enwebu unigolyn sydd wedi bod yn gyfeillgar, yn gariadus ac wedi dangos ysbryd cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf.