Skip to main content

Llwyddiant partneriaeth i Sgiliau Byw’n Annibynnol a Phrentisiaethau 

Mae’r adrannau Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a Hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe wrthi’n dathlu ffrwyth eu cyd-fenter gyntaf newydd sydd wedi rhoi modd i ddau fyfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol bontio o raglen interniaeth flwyddyn i brentisiaethau cefnogol am dâl gyda chyflogwyr lleol ym mis Ebrill.  

Trwy gydweithio â The Ware-House Gym yng Nghwmdu a Croeso Lounge yn y Mwmbwls, daeth y Pasg yn gynnar i’r myfyrwyr gweithgar Callum East ac Ethan Scott pan ddywedodd y mentoriaid gwaith, Hayley Harries a Dan Kristof, eu bod nhw am eu cyflogi yn hirdymor.  

Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu’r Arglwydd Faer

Roedd grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol wedi cael sesiwn holi ac ateb gydag Arglwydd Faer Abertawe, Y Cynghorydd Peter Black, ddydd Mercher 5 Chwefror.

Roedd yr Arglwydd Faer wedi trafod ei rôl â’r dysgwyr brwdfrydig, gan gynnwys ei dasgau o ddydd i ddydd a’i uchafbwyntiau personol megis rhoi Rhyddid y Ddinas i Alun Wyn Jones a chroesawu Dug a Duges Caergrawnt i’r Mwmbwls y diwrnod blaenorol.

Rhagor o fedalau sgiliau i fyfyrwyr SBA

Mae tîm o fyfyrwyr ILS Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol (Y Cyfryngau) a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw.

Roedd Connor Maddick, Megan Bevan a Courtney Collins wedi ffilmio, cynhyrchu a golygu ffilm ddwy funud yn seiliedig ar thema ramantus Santes Dwynwen.

Nid yn unig roedd y broses o wneud y ffilm wedi rhoi eu doniau creadigol, technegol a galwedigaethol ar brawf ond roedd hefyd wedi rhoi cyfle gwych iddynt gynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe mewn cystadleuaeth genedlaethol.

Tagiau

Myfyrwyr ILS yn gwneud eu marc mewn cystadleuaeth sgiliau

Mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol yng Ngholeg y Drenewydd.

Roedd Callum East, sy’n astudio ar y cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach (Sgiliau Bywyd), wedi ennill y fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty – Gosod Bwrdd.

Roedd Siobhan Ashour, sy’n astudio ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith, wedi sicrhau medal Efydd am ei gwaith yn y gystadleuaeth Paratoi Bwyd.

Tagiau

Tîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol yn bencampwyr Ability Counts

Mae tîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei goroni’n Bencampwyr Ability Counts Cymru Cymdeithas y Colegau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Ar ôl mynd trwodd heb gael eu curo, roedden nhw wedi trechu Coleg Sir Gâr 3-0 yn y rownd gyn-derfynol a Choleg Caerdydd a’r Fro 1-0 yn y rownd derfynol gyffrous.

Roedd y tîm wedi gweithio’n galed i ennill eleni ac maen nhw’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau ym Mhrifysgol Nottingham yn 2018.

Tagiau

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio Aur ac Arian!

Mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau yn y Sioe Sgiliau Find a Future a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr NEC yn Birmingham.

Enillodd y fyfyrwraig Astudiaethau Dysgu Annibynnol Kayleigh Lewis fedal Aur yn y gystadleuaeth ‘Sgiliau Coginio Cynhwysol', lle roedd gofyn iddi baratoi a chyflwyno brechdanau wedi'u llenwi yn steil rapiau a bara fflat gan arddangos y sgiliau paratoi, hylendid a diogelwch cywir trwy'r holl waith.

I ffwrdd â ni i LA!

Pan fydd tymor yr haf yn dod i ben ym mis Gorffennaf, bydd y myfyriwr Matthew Allen o Goleg Gŵyr Abertawe yn hel ei bac i fynd i Los Angeles.

Mae Matthew, myfyriwr Sgiliau Byw’n Annibynnol, ar fin cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd. Mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr mewn nofio.

Matthew, sydd hefyd yn dioddef o awtistiaeth, yw’r unig nofiwr o Gymru i gael ei ddewis ar gyfer y digwyddiad hwn. Eisoes, mae ganddo hanes llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd Arbennig a dwy fedal Aur, un fedal Arian a dwy fedal Efydd i’w enw.

Taw piau hi – codi arian ar gyfer achos da

Mae grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi addo aros yn dawel gan obeithio codi arian ar gyfer elusen leol.

Mae’r myfyrwyr yn ymateb i apêl ddiweddar am arian gan Gynllun Ceffylau a Merlod Cymunedol – neu CHAPS – sy’n darparu therapi adsefydlu drwy ddefnyddio ceffylau yn ardal Abertawe.