Skip to main content

Cyfleoedd di-ri i fyfyrwyr sgiliau byw’n annibynnol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio cyfres o interniaethau gwaith newydd gyda myfyrwyr yn yr adran sgiliau byw’n annibynnol (SBA), gan weithio hyd at bum diwrnod yr wythnos mewn sectorau amrywiol yn Ysbyty Treforys a’r gymuned ehangach.

Mae cyflogwyr adnabyddus wedi cydnabod y myfyrywr fel cyfranwyr gwerthfawr yn y gweithle ac mae’r darpar bartneriaethau hyn hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gael profiad gwaith i’w roi ar eu CVs a dod o hyd i gyflogaeth am dâl.

Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu’r Arglwydd Faer

Roedd grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol wedi cael sesiwn holi ac ateb gydag Arglwydd Faer Abertawe, Y Cynghorydd Peter Black, ddydd Mercher 5 Chwefror.

Roedd yr Arglwydd Faer wedi trafod ei rôl â’r dysgwyr brwdfrydig, gan gynnwys ei dasgau o ddydd i ddydd a’i uchafbwyntiau personol megis rhoi Rhyddid y Ddinas i Alun Wyn Jones a chroesawu Dug a Duges Caergrawnt i’r Mwmbwls y diwrnod blaenorol.

Lluniau buddugol yn arwain at wobrau

Mae dau fyfyriwr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a drefnwyd gan Anabledd Dysgu Cymru.

Mae Sophie Maddick a Jon-Luc Howells yn dilyn y cwrs Paratoi at Astudio 2 ar Gampws Tycoch. Mae ffotograffiaeth ddigidol yn un o’r pynciau maen nhw’n ei astudio a chafodd y lluniau buddugol eu tynnu yn ystod ymweliad dosbarth â Bae Langland gyda’r darlithydd Leah Millinship.

Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed ILS!

Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) Coleg Gŵyr Abertawe am ennill pencampwriaethau cenedlaethol 'Ability Counts' yn St George's Park, Burton on Trent.

Ar ôl ennill yn y gystadleuaeth ranbarthol, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yn erbyn 16 o golegau buddugol eraill ar draws Lloegr. Nid yn unig roedd y myfyrwyr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe ond Cymru hefyd!

Chwaraeoedd y tîm bum gêm, gan ennill pedair a dod yn gyfartal mewn un, cyn curo Coleg Henley 4-2 yn y rownd derfynol.

I ffwrdd â ni i LA!

Pan fydd tymor yr haf yn dod i ben ym mis Gorffennaf, bydd y myfyriwr Matthew Allen o Goleg Gŵyr Abertawe yn hel ei bac i fynd i Los Angeles.

Mae Matthew, myfyriwr Sgiliau Byw’n Annibynnol, ar fin cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd. Mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr mewn nofio.

Matthew, sydd hefyd yn dioddef o awtistiaeth, yw’r unig nofiwr o Gymru i gael ei ddewis ar gyfer y digwyddiad hwn. Eisoes, mae ganddo hanes llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd Arbennig a dwy fedal Aur, un fedal Arian a dwy fedal Efydd i’w enw.

Taw piau hi – codi arian ar gyfer achos da

Mae grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi addo aros yn dawel gan obeithio codi arian ar gyfer elusen leol.

Mae’r myfyrwyr yn ymateb i apêl ddiweddar am arian gan Gynllun Ceffylau a Merlod Cymunedol – neu CHAPS – sy’n darparu therapi adsefydlu drwy ddefnyddio ceffylau yn ardal Abertawe.