Myfyriwr Mynediad yn ennill bwrsari arbennig
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Aaliyah Wood, wedi cael ei dewis i dderbyn Bwrsari Collab Group Peter Roberts. Llongyfarchiadau mawr iddi.
Mae’r Bwrsari gwerth £2,500, a noddir gan The Skills Network, yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i ddau fyfyriwr yn y DU sydd wedi astudio mewn coleg Collab Group ac sy’n mynd i’r brifysgol neu’n dechrau eu busnes eu hunain.
Astudiodd Aaliyah Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yn y Coleg cyn symud ymlaen i gwblhau Mynediad i’r Gyfraith, lle cafodd ei haddysgu gan Allison Bray a Michael Adams.