Cynlluniwch eich dyfodol yn nosweithiau agored cyrsiau amser llawn Coleg Gŵyr Abertawe
Ydych chi neu’ch plentyn sydd yn ei arddegau yn meddwl am y camau nesaf ar ôl ysgol? Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn agor ei ddrysau ym mis Tachwedd i ddarpar fyfyrwyr fel y gallant gael cyfle i ymweld â champysau, sgwrsio â darlithwyr a staff cymorth a darganfod y cyrsiau sydd ar gael.
Gwybodaeth bwysig am ein nosweithiau agored mis Ionawr 2022
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnig gyfres o nosweithiau agored rhithwir ym mis Ionawr.
Os ydych yn ystyried mynychu, cofrestrwch eich diddordeb o flaen llaw ar ein tudalen we ddynodedig.
Y dyddiadau yw:
- Nos Lun 10 Ionawr – Gorseinon (rhithwir)
- Nos Lun 17 Ionawr – Tycoch (rhithwir)
- Nos Fawrth 18 Ionawr – Llwyn y Bryn (rhithwir)
Mae’r holl nosweithiau agored yn dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm.
Ymunwch â ni yn ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd
Eleni, mae ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd yn mynd yn rhithwir! Archwiliwch yr amrywiaeth o gyrsiau a gynigiwn, sgwrsiwch yn fyw â’n staff a chael cipolwg go iawn ar fywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Beth allwch chi ei ddisgwyl o'r diwrnod?
Trefniadau ar gyfer noson agored Campws Tycoch – 20 Ionawr 2020
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal noson agored ar Gampws Tycoch nos Lun 20 Ionawr i’r rhai a hoffai astudio cyrsiau amser llawn ac addysg uwch.
Gan fod y campws mor fawr a helaeth, isod rydym wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr ar y noson:
Canolfan Broadway:
Os hoffech astudio cwrs gwallt, harddwch neu holisteg gallwch wneud eich ffordd yn uniongyrchol i Ganolfan Broadway os yw’n well gennych. Lleolir hon ar ben uchaf Campws Tycoch.