Cystadleuaeth Dathlu Creadigrwydd i fyfyrwyr Trin Gwallt Broadway.
Roedd myfyrwyr VRQ Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt wrthi yn cystadlu yr wythnos diwethaf yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway.
Cafodd myfyrwyr yr ail flwyddyn awr i gynllunio a chynhyrchu steil wallt fasnachol, gan gyfuno llu o sgiliau technegol a ddysgwyd yn ystod eu cwrs.
Lluniwyd y gystadleuaeth er mwyn i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau a’u creadigrwydd ym maes trin gwallt menywod ac iddynt gael profiad mewn gweithgaredd cystadleuaeth.