Skip to main content

Archwilio cyfleoedd dysgu o bell newydd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a fydd yn gweld amrywiaeth ehangach o gyfleoedd dysgu o bell a hyblyg yn cael eu cynnig i ddysgwyr lefel uwch ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Bydd y bartneriaeth yn ymdrin â phedair prif elfen - datblygu prentisiaethau gradd newydd a rhaglenni lefel prifysgol, treialu llwybr dilyniant AU ar gyfer myfyrwyr mynediad a gradd sylfaen, ac uwchsgilio gweithwyr.

Cynnig prifysgol Americanaidd i Bethany

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle mewn prifysgol fawreddog yn America.

Mae Bethany Wisdom, sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch Hanes, Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg ac yn dilyn rhaglen HE+ y Coleg, wedi cael cynnig lle i astudio’r celfyddydau breiniol yng Ngholeg Bryn Mawr ym Mhensylfania.

Myfyriwr Safon Uwch yn mynd i Brifysgol yn America

Ymhlith y 1000+ o fyfyrwyr sydd ar fin symud ymlaen i addysg uwch o Goleg Gŵyr Abertawe mae Elli Rees, sydd wedi cael lle mewn prifysgol nodedig yn America.

Aeth Elli i Ysgol Gyfun y Strade cyn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Mathemateg, Saesneg Llenyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ar Gampws Gorseinon, a bydd hi nawr yn astudio ar gyfer gradd y Celfyddydau Breiniol yn St John’s College yn Annapolis, Maryland.

Myfyrwyr yn barod i astudio cerddoriaeth yn y prifysgolion gorau

Mae myfyrwyr Safon Uwch Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael cynigion cwrs gan rai o’r prifysgolion a’r conservatoires gorau yn y DU.

“Rydyn ni wedi cael blwyddyn wych o ran dilyniant myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe i addysg uwch ac rydw i wrth fy modd bod cynifer ohonyn nhw wedi cael lle yn y sefydliadau nodedig hyn,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Jonathan Rogers. “Mae pob un wedi mynd trwy broses clyweliadau hynod drwyadl a chystadleuol a dylen nhw fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”

Karly yn ennill dwy wobr

Mae cyn myfyriwr mynediad o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn ail yn seremoni flynyddol Coffa Keith Fletcher.

Bydd Karly Jenkins, astudiodd Mynediad i Les Cymdeithasol yn y Coleg, cyn mynd i astudio cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, yn mynychu digwyddiad cyflwyno arbennig ym Mhalas San Steffan, ar 24 Chwefror.

Dyma fydd yr ail wobr i Karly dderbyn eleni, gan mai hi hefyd enillodd gwobr Dysgwr Mynediad y Flwyddyn (Agored Cymru) yng nghategori’r Ymrwymiad Eithriadol i Astudio.

Dysgwyr AU y Coleg yn graddio!

Aeth dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad graddio arbennig yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Roedd y myfyrwyr yn dathlu llwyddiant mewn pynciau gan gynnwys cyfrifeg, addysgu, peirianneg, gofal plant, gwallt a harddwch, chwaraeon, tai a rheolaeth.

Myfyrwyr busnes yn ymchwilio i ddewisiadau prifysgol

Yn ddiweddar, roedd grŵp o fyfyrwyr Safon UG Busnes wedi cael cyfle i ymweld â Diwrnod Agored i Israddedigion ym Mhrifysgol Falmouth i gael cipolwg ar y rhaglenni gradd busnes ac entrepreneuriaeth a gynigir.

Yno, roedden nhw hefyd yn gallu cwrdd â nifer o fyfyrwyr presennol yn ogystal â staff darlithio.

Roedd y myfyrwyr hefyd wedi gwneud gweithgareddau arforgampau amrywiol ar draeth Swanpool. Roedd y gweithgareddau hyn wir wedi’u gwthio nhw allan o’u cylch cysur ond roedden nhw’n boblogaidd iawn!

Dyfodol ar y llwyfan i fyfyrwyr CGA

Mae bron 30 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle yn rhai o golegau a phrifysgolion drama mwyaf nodedig yn y DU.

“Mae ein myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio wedi cael y deuddeg mis mwyaf rhagorol ac mae’r straeon hyn am ddilyniant llwyddiannus yn ffordd wych o orffen y flwyddyn academaidd,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu, Lucy Hartnoll.