Coleg yn dathlu Gwobrau Prentisiaeth 2023
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac Wythnos Prentisiaethau Cymru 2023.
Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig, dan ofal Ross Harries o BBC Cymru Wales Scrum V Live, ar Gampws Tycoch i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid a phartneriaid cyflogwyr y Coleg o bob rhan o Gymru a Lloegr.
Noson agored a sesiynau gwybodaeth prentisiaethau ar gyfer Wythnos Prentisiaethau
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW) 2023 yw’r 16eg dathliad blynyddol o brentisiaethau yn y DU. Mae’n dod â busnesau a phrentisiaid ynghyd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach. Mae’n cyd-daro ag Wythnos Prentisiaethau Cymru (AWW) sy’n dathlu ac yn hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd.